Part of the debate – Senedd Cymru am 6:16 pm ar 19 Mehefin 2019.
Ni fydd llawer o achlysuron y prynhawn hwn nac unrhyw brynhawn arall lle caf reswm i ddiolch i Blaid Brexit, ond rwy'n gwneud eithriad heddiw i ddiolch iddynt am eglurder eu cynnig, sy'n galw'n benodol am Brexit 'dim bargen' ac i'r diawl â'r canlyniadau i gymunedau fel Torfaen. [Torri ar draws.] Ydy, mae. Mae cyfuno'r brwdfrydedd newydd hwn o blaid dim cytundeb gan wrthod cydnabod yr angen am bleidlais gadarnhaol yn ailysgrifennu hanes refferendwm 2016 ac mae'n gwbl annemocrataidd. Dywedwyd wrth bleidleiswyr yn Nhorfaen y byddai cael cytundeb yn haws na dim yn y byd, y byddai gwledydd yn curo ar ein drysau i lunio cytundebau masnach cyffrous â ni. Cannoedd o filiynau o bunnoedd yn llifo i mewn i'r GIG—dyna'r camargraff a werthwyd ar garreg y drws. Nid ydym wedi pleidleisio ar realiti eto.
Ni ddywedwyd wrth y bobl sy'n dibynnu ar y sector gweithgynhyrchu yn fy etholaeth mai'r pris am bleidlais 'adael' fyddai eu bywoliaeth o bosibl—y gwaith a'r glud sy'n dal cymunedau at ei gilydd. Yr wythnos diwethaf, dywedodd Make UK wrth y pwyllgor dethol ar Brexit fod cysylltiad uniongyrchol rhwng gwleidyddion yn sôn am y posibilrwydd o 'ddim bargen' a chwmnïau Prydeinig yn colli cwsmeriaid tramor a phobl Prydain yn colli eu swyddi. Ni ellir diystyru hyn fel prosiect ofn—prosiect ffaith yw hyn. Mae'n digwydd yn awr. Mae ffatrïoedd yn cau, mae swyddi'n mynd, mae cymunedau'n wynebu dyfodol llwm. A dim ond yr hyn y mae'r posibilrwydd o 'ddim bargen' yn ei wneud i ni yw hyn. Dychmygwch beth sy'n digwydd pan ddaw'r rhagolygon yn realiti, a dyna y mae'r cynnig hwn sydd ger ein bron heddiw yn galw amdano.
Ar yr union foment y mae ein gweithgynhyrchwyr yn dweud wrthym fod galw am Brexit 'dim bargen' yn weithred o fandaliaeth economaidd, dyma'r foment pan fo Plaid Brexit yn cyflwyno cynnig yn galw amdano. Dyma'r adeg hefyd pan fo Boris Johnson yn lansio ei ymgyrch am yr arweinyddiaeth, sy'n rhoi 'dim bargen' yn gadarn ar y bwrdd fel canlyniad posibl i'w wneud yn Brif Weinidog. A chydag un arall o'r rhai sydd yn y ras am yr arweinyddiaeth yn cefnogi 150 y cant y ffordd hiliol y sarhaodd Katie Hopkins faer Llundain, nid yw natur wenwynig dadl Brexit yn dangos unrhyw arwydd o leihau. Nawr, nid wyf yn disgwyl y byddaf yn argyhoeddi Plaid Brexit ynghylch y dadleuon economaidd yn erbyn y llwybr y dewisant ei ddilyn heddiw, ond rwy'n gobeithio eu hargyhoeddi o un peth. Wedi'r cyfan, dyma'r wythnos y cofiwn am farwolaeth ein cyd-Aelod, Jo Cox—AS ifanc a siaradai o blaid amrywiaeth fel cryfder ac a lofruddiwyd ar y stryd gan derfysgwr asgell dde. Mae'r iaith y dewiswn ei defnyddio yn y Siambr hon yn bwysig. Mae'n wirioneddol bwysig. Mae'r iaith y mae ein Haelodau a'n cefnogwyr yn ei defnyddio ar y stryd ac ar-lein yn bwysig. Mae'n wirioneddol bwysig. Mae'r labeli a roddwn i wleidyddion eraill a phobl eraill yn ein taflenni, ein colofnau papur newydd a ffrydiau Twitter yn bwysig iawn. Ni ddowch o hyd i feirniad mwy croch yn erbyn rhai sy'n cyflawni camweddau o fewn ei phlaid ei hun na fi. Ni fyddaf byth yn esgusodi ymddygiad bygythiol, bwlio neu ymddygiad rhagfarnllyd gan neb. Felly, rwyf am roi'r un cyfle i arweinydd Plaid Brexit heddiw i egluro lle mae ef a'i blaid yn sefyll ar hyn. Ers i Mark Reckless fy nghyhuddo yn y Siambr hon o amharchu fy etholwyr, dioddefais lif parhaus o gam-drin geiriol gan giwed fechan ond swnllyd iawn yn lleol.