8. Dadl Plaid Brexit: Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 19 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 6:30, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Ar hynny, o leiaf, efallai y gallwn gytuno, o ran Brexit.

Byddai gadael heb gytundeb yn debygol o arwain at ddirywiad sydyn yng ngwerth sterling, a fyddai'n golygu na fyddai dim byd yn rhatach, felly beth yw ateb Plaid Brexit i hyn? Sut y byddent yn cadw prisiau i lawr? Eu polisi, hyd y gellir gweld, fyddai lleihau tariffau'n unochrog i sero. Wrth gwrs, o dan reol 'cenedl a ffefrir fwyaf' Sefydliad Masnach y Byd, byddai'n anghyfreithlon i wahaniaethu ar dariffau y tu allan i gytundeb masnach. Felly, byddai'n rhaid i'r DU ollwng tariffau ar nwyddau dewisol ar gyfer y byd i gyd. Byddai hyn, yn amlwg, yn drychineb i amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu ar yr ynysoedd hyn, ac yn boddi'r farchnad â nwyddau rhad ac yn gwneud cynnyrch o Gymru yn anghystadleuol dros nos.