Part of the debate – Senedd Cymru am 6:50 pm ar 19 Mehefin 2019.
Sy'n dod â ni i'r cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, dwi'n symud yn syth i'r bleidlais.
Mae'r bleidlais gyntaf, felly, ar y cynnig i ddirymu Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Dai Lloyd. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 19, tri yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.