Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 25 Mehefin 2019.
Mae adeiladau rhestredig yn rhan bwysig o'n treftadaeth ac yn cael gwarchodaeth arbennig mewn deddfwriaeth, a atgyfnerthwyd yn ddiweddar gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), a basiwyd yma yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn 2016. Yn ystod yr hydref hwn, bydd Cadw yn lansio rhaglen hyfforddi ar gyfer timau cadwraeth awdurdodau lleol, gan ganolbwyntio ar swyddogaeth camau gorfodi i ddiogelu adeiladau rhestredig.