Gofal Iechyd yn y Rhondda

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 25 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:26, 25 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i Leanne Wood am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn cyfres o fesurau i roi'r gofal gorau posibl i bobl y Rhondda. Dwy enghraifft yn unig sy'n dangos ein bod yn benderfynol yw'r buddsoddiad o £6 miliwn mewn canolfan ddiagnostig i leihau amseroedd aros a'r bartneriaeth £2 miliwn gyda Macmillan i wella gofal lliniarol.