Dinasyddion yr UE yng Nghymru a'r Etholiad Diweddar i Senedd Ewrop

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 25 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:39, 25 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb, ac yn falch o glywed y Llywodraeth yn sefyll yn barod i ymateb. Tybed a fydd yn barod i ystyried cyflwyno achos i awgrymu y dylai'r cyrff hynny gynnal adolygiad rhagweithiol. Rwyf wedi gweld ffigurau, er enghraifft, sy'n awgrymu mai llai na 19 y cant o ddinasyddion cymwys yr UE ym Mhowys a oedd wedi gallu pleidleisio, mewn gwirionedd, gan fod y system a gyflwynwyd iddyn nhw mor gymhleth—roedd pobl yn credu eu bod wedi cofrestru i bleidleisio, roeddent heb sylweddoli eu bod yn gorfod anfon ffurflen arall, ac ati. Dydyn ni ddim wrth gwrs yn gwybod, Llywydd, a fydd etholiadau eraill pryd y bydd dinasyddion yr UE yn gymwys i bleidleisio. Yn anffodus, ni fyddant yn gymwys i bleidleisio yn yr is-etholiad sydd i ddod ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Ond gallwn obeithio y bydd etholiadau eraill o'r fath. A byddwn yn gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol efallai y byddai'n briodol i Lywodraeth Cymru fod yn rhagweithiol wrth geisio unioni'r cam hwn rhag ofn y bydd amgylchiadau felly yn codi.