3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 25 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:05, 25 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am godi'r materion hynny. O ran colli swyddi Jistcourt, mae'n amlwg y bydd hyn yn newyddion torcalonnus i'r 66 o weithwyr a'u teuluoedd, a byddwn yn awr yn canolbwyntio ar helpu'r gweithwyr hynny i ddod o hyd i gyflogaeth leol arall. Mae'r gweithlu yno'n arbennig o dalentog, ac mae gan ein rhaglen ReAct record gref o gefnogi unigolion sydd wedi colli swyddi. Byddwn yn sicrhau bod y cymorth hwn ar gael cyn gynted â phosib, ynghyd â chymorth cydgysylltiedig gan bartneriaid a sefydliadau lleol, gan gynnwys Gyrfa Cymru a'r Ganolfan Byd Gwaith. O ran eich pryder ehangach am y mesurau datblygu economaidd y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, wrth gwrs, mae'r datganiad hwnnw gan Ken Skates ddydd Mawrth nesaf, a allai fod yn gyfle i archwilio'r materion yn ehangach.

Llwyddais i ymateb i Dai Lloyd yr wythnos diwethaf—i'w gwestiwn ynghylch darpariaeth trafnidiaeth Castell-nedd Port Talbot i'r rhai sy'n dymuno cael addysg Gymraeg. Fel y dywedwch, mae'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, ond byddem yn bryderus petai'r rheini sy'n dymuno cael eu haddysg yn Gymraeg dan anfantais. Yn amlwg, byddem yn ceisio sicrhau bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau nad oes anfantais yno. Byddaf yn gofyn i Weinidog y  Gymraeg roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y camau sydd wedi'u cymryd tuag at y targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.