3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 25 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:52, 25 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Trefnydd, a gaf i ofyn am dri datganiad, os gwelwch yn dda, os oes modd? Yn gyntaf, hoffwn weld a chlywed beth yw ymateb y Llywodraeth i'r Dirprwy Weinidog dros yr economi pan ddywedodd mewn araith ym mwyty'r Clink, wrth sôn am berfformiad economaidd y Blaid Lafur mewn Llywodraeth,

'Ers 20 mlynedd rydym wedi cymryd arnom ein bod yn gwybod beth rydyn ni'n ei wneud gyda'r economi—ond y gwir amdani yw, dydyn ni ddim...Mae pawb yn ei wneud i fyny wrth fynd ymlaen'.

Rwyf yn ei gymeradwyo am ei araith ddidwyll, ei sylwadau a'r nodiadau a roddodd yn y cyfarfod hwnnw. Ond credaf ei bod yn bwysig, gan gofio bod y Llywodraeth, mi dybiaf, yn cael ei hategu gan bolisi—'Ffyniant i Bawb', er enghraifft, sy'n ddogfen y cyfeirir ati'n gyson—ac yma mae gennych chi'r Dirprwy Weinidog yn dweud, o ran yr economi, fod y Llywodraeth hon a'i rhagflaenwyr wedi bod yn ei wneud i fyny wrth iddynt fynd yn eu blaenau. Mae hynny'n peri pryder mawr, a dweud y lleiaf.

Yn ail, a allaf i bwyso arnoch, fel Gweinidog cyllid, i gyflwyno datganiad ynglŷn â'r sefyllfa ariannol yn ymwneud â'r argyfwng newid hinsawdd a'r mentrau a fydd yn deillio o hynny a'r safbwyntiau polisi y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd. Cymeradwyaf y Gweinidog am yr hyn y mae wedi'i wneud yn hyn o beth, ond credaf fod angen inni ddeall beth fydd y sefyllfa ariannol a beth fydd nifer y swyddi hefyd. Mae'r Trysorlys yn Llundain wedi darparu ffigurau penodol ar gyfer y Llywodraeth, sef cyfanswm o £1 triliwn i gyfarfod â'r cyfraniad sero net erbyn 2050. Credaf ei bod yn ddyletswydd ar y Llywodraeth hon, os yw'n cyflwyno safbwyntiau polisi sy'n ceisio symud oddi wrth hen swyddi carbon i rai newydd, gwyrdd, i sicrhau ein bod yn deall beth y bydd hynny'n ei olygu mewn termau ariannol a pha rwymedigaethau  fydd yn cael eu rhoi ar bob adran a'u cyllid. Mae'n siŵr bod gennych chi, fel Gweinidog cyllid, elfen o'r wybodaeth honno wrth law, a phe bai hynny'n cael ei gynnwys mewn datganiad, byddai hynny, byddwn yn awgrymu, yn llywio'r ddadl yn y dyfodol yn fawr iawn ar y pwnc hwn.

Y trydydd pwynt yr hoffwn fwrw ymlaen ag ef, os oes modd, yw a allwn ni gael datganiad gan y Gweinidog dros drafnidiaeth, neu hyd yn oed y Gweinidog dros yr economi—gwn mai'r un person ydynt ond credaf ei fod wedi'i drosglwyddo i'r dirprwy, yr wyf yn credu, ond efallai fy mod yn anghywir yn hynny o beth—mewn cysylltiad â'r gwaith ffordd yng nghyffordd Sycamore Cross ym Mro Morgannwg? Bum mlynedd yn ôl yn unig, gwariodd y Llywodraeth £2 filiwn ar uwchraddio'r gyffordd benodol honno i statws cefnffordd. Mae unrhyw un sydd wedi teithio ar y rhan honno o'r ffordd dros yr ychydig wythnosau diwethaf wedi gweld y ffordd yn cael ei phalu'n systematig eto, goleuadau dros dro newydd yn cael eu gosod, gan achosi anhrefn i'r traffig. A'r hyn na all llawer o bobl ei ddeall yw, os gwariodd Llywodraeth Cymru £2 filiwn bum mlynedd yn ôl yn rhoi trefn ar y gyffordd honno, pam mae'r cyfan bellach yn cael ei rwygo—ac mae'n cael ei rwygo'n llythrennol—a'r holl welliannau hynny a wnaed dim ond pum mlynedd yn ôl yn cael eu datgymalu. Rwy'n tybio y bydd rhyw fath o ailadeiladu yn digwydd yn ystod yr wythnosau nesaf, ond mae braidd yn anodd trio rhagweld beth fydd hynny, o ystyried mai'r cyfan sydd gennych yw tyllau yn y ddaear ar hyn o bryd. Felly, pe gallem ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog er mwyn gallu ymhelaethu ar hynny i'r holl fodurwyr, defnyddwyr beiciau a cherddwyr hynny sy'n cael eu llesteirio gan y gwaith ar y gyffordd benodol honno, credaf y byddai hynny'n ymarfer buddiol iawn.