Part of the debate – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 25 Mehefin 2019.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno y bydd cynnig i atal Rheolau Sefydlog yn cael ei gynnig er mwyn caniatáu newid yr Aelod sy'n arwain y ddadl fer yfory. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i osod yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymhlith y papurau sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.