6. Dadl ar Goridor yr M4 o amgylch Casnewydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 25 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 4:23, 25 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y gwelliannau yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar.

Ar 23 Hydref, dywedodd Julie James, arweinydd y tŷ ar y pryd, a oedd yn cyflenwi ar ran y Prif Weinidog ar y pryd, wrth siarad ar ran y Llywodraeth, y byddai gennym ni bleidlais orfodi yn amser y Llywodraeth ar brosiect ffordd liniaru'r M4. Rwy'n credu ei bod hi'n siomedig nad yw'r ymrwymiad hwn wedi cael ei anrhydeddu. Chwe blynedd ers dechrau'r prosiect hwn, mae'r ymchwiliad wedi cymryd bron i ddwy flynedd i archwilio cynigion Llywodraeth Cymru ei hun a 28 o ddewisiadau eraill ar gost o'r hyn yr ydym ni'n ei wybod bellach sy'n £114 miliwn. Dim ond, wrth gwrs, i'r Prif Weinidog gael gwared ar y cynllun yn llwyr.

Rwy'n siomedig bod Llywodraeth Cymru yn awr wedi bod yn llusgo traed unwaith eto, drwy greu comisiwn arbenigol newydd, a gafodd ei lunio i ddod i gasgliadau newydd o fewn chwe mis. Does dim sicrwydd, wrth gwrs, na fydd y Prif Weinidog, ar ddiwedd y broses honno, yn anwybyddu argymhellion yr Arglwydd Burns, fel y gwnaeth wrth wrthod casgliadau manwl adroddiad yr arolygydd cyhoeddus annibynnol.

Mae Llywodraeth Cymru yn iawn yn ei chynnig bod y problemau sylweddol o ran tagfeydd ar yr M4 yn effeithio ar economi Casnewydd a'r economi ehangach. Ond mae'n ddigon hawdd rhoi hynny mewn cynnig heddiw; mae Llywodraeth bresennol Cymru yn rhan o'r broblem yn hytrach nag yn rhan o'r ateb.  

Nid yw "clytio a thrwsio" yn ddewis polisi cynaliadwy mwyach i ddiwallu anghenion hirdymor Cymru.

Nid fy ngeiriau i; dyna eiriau Gweinidog yr economi o ran yr M4. Ers 20 mlynedd, mae'r Llywodraeth Lafur wedi cymryd arnyn nhw eu bod nhw'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud â'r economi, ond mae gen i ofn eu bod yn dyfeisio'r cwbl wrth fynd yn eu blaenau. Ers gwrthod casgliadau'r arolygydd, nid oes gan y Llywodraeth unrhyw gynllun, unrhyw dargedau, unrhyw atebion ymarferol a fydd yn datrys y problemau tagfeydd sy'n dal economi Casnewydd yn ôl, ac yn mygu economi ehangach Cymru.

Ni allwn ni ar y meinciau hyn gefnogi cynnig nad yw'n cydnabod methiant Llywodraeth Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf, er gwaethaf dau ddegawd o drafod ac ymgynghori. Mae'r manteision economaidd yn amlwg. Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cydnabod hyn o'r blaen, ac fe'i dyfynnaf yma:

Dros y cyfnod arfarnu 60 mlynedd, mae mwy na £2 o fudd ar gyfer pob punt a werir ar y cynllun, heb sôn am y buddiannau economaidd ehangach sy'n debygol o ddeillio o'r cynllun, megis canfyddiad cryfach o Gymru fel lle i fuddsoddi ynddo, na ellir ei fesur. 

Ni allwn i grynhoi hynny'n well fy hun, Llywydd, ac, wrth gwrs, dywedodd yr arolygydd cynllunio hefyd y byddai pob £1 a fuddsoddwyd yn talu £1.56 yn ôl i'r genedl. Yn y cyfamser, fel mae pethau yn awr, mae lefelau traffig yn cynyddu ac nid ydym ni'n llwyddo i adeiladu seilwaith a rhwydwaith ffyrdd a fyddai'n denu mewnfuddsoddiad. Amcangyfrifwyd bod yr effaith economaidd o beidio â mynd ymlaen yn £134 miliwn y flwyddyn i Gaerdydd a £44 miliwn y flwyddyn i Gasnewydd.

Mae gennyf bryderon a chwestiynau gwirioneddol ynghylch effaith amgylcheddol cynigion y Llywodraeth ei hun, ond roedd hi'n bwysig dros ben bod yr ymchwiliad cyhoeddus yn clywed barn rhanddeiliaid, yn archwilio'r cynigion amgen a oedd yn cael eu cyflwyno ac yn archwilio, yn fanwl, y goblygiadau amgylcheddol y soniwyd amdanyn nhw. Fy marn i a barn y meinciau hyn oedd y dylid parchu canlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus, ar ôl archwilio a phwyso a mesur yr holl dystiolaeth.

I fod yn glir, Llywydd, rydym ni ar y meinciau hyn yn galw ar i Lywodraeth Cymru dderbyn argymhellion yr arolygydd cyhoeddus ac adeiladu ffordd liniaru'r M4 ar frys. Llywydd, terfynaf â dyfyniad o eiriau Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru ei hun, a ddywedodd:

nad yw'r seilwaith presennol ar y M4 o amgylch Casnewydd yn addas at y diben ... Mae gwelliannau tameidiog a defnyddiol wedi cael eu gwneud dros amser, a fydd yn gwella'r sefyllfa ... ond nid ydynt ond wedi gohirio'r mater. Mae angen i'r darn hwn o seilwaith gael ei uwchraddio'n sylweddol yn y tymor hir.

Rwy'n cytuno ag ef.