Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 25 Mehefin 2019.
Ac rŷn ni yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio ar gyfer y ddadl ar goridor yr M4 o gwmpas Casnewydd. Felly, mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.