Grŵp 1: Diffiniadau yn Rhan 1 o’r Bil (Gwelliannau 13, 14)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 25 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 5:45, 25 Mehefin 2019

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gan ddyfynnu geiriau memorandwm esboniadol y Bil yma:

'Diben y Bil Deddfwriaeth (Cymru) yw gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, clir a syml i'w defnyddio.'

Ac, wrth gwrs, hygyrchedd ein deddfwriaeth ydy ysbrydoliaeth y gwelliant sydd wedi'i osod gerbron yn fy enw i y prynhawn yma. 

Bu inni drafod nifer o welliannau tebyg o dan Gyfnod 2, a derbyniwyd eu hysbryd gan y Cwnsler Cyffredinol bryd hynny, ac ers Cyfnod 2 mae swyddogion a chyfreithwyr galluog y Llywodraeth yma wedi fy nghynorthwyo i i ddiwygio fy ngwelliannau blaenorol i'r gwelliannau sydd wedi'u gosod gerbron heddiw. Mae yna newidiadau sylfaenol i beth wnaethom ni ei gyflwyno o flaen Cyfnod 2.

Felly, yn y gwelliant yma, yn olrhain ystyr hygyrchedd cyfraith Cymru ydy'r graddau y mae ar gael yn hwylus i aelodau'r cyhoedd yn y Gymraeg a'r Saesneg, fod cyfraith Cymru wedi'i chyhoeddi ar ei ffurf diweddaraf yn y ddwy iaith, sy'n dangos a yw deddfiadau mewn grym ac yn corffori unrhyw ddiwygiadau a wnaed iddynt, fod cyfraith Cymru wedi'i threfnu'n glir ac yn rhesymegol o fewn deddfiadau yn ogystal â rhwng deddfiadau, a bod cyfraith Cymru yn hawdd ei deall ac yn sicr ei heffaith. 

Dwi'n falch iawn i'r Cwnsler Cyffredinol a'i swyddogion am bob cymorth wrth drefnu hyn i gyd. Achos dŷn ni'n sefyll yn y Senedd yma, dŷn ni yn gallu deddfu dros bobl Cymru nawr, dŷn ni hefyd yn gallu codi trethi. Mae'r ddeddfwriaeth yma i'w chroesawu'n fawr ac rydym yn llongyfarch y Cwnsler Cyffredinol ar ei weledigaeth a'i fenter. Wrth gwrs, i'r unigolyn ar y stryd ac i gyfreithwyr mewn llys barn fel ei gilydd, mae deddfwriaeth yn gallu bod yn hynod gymhleth, gyda chyfuniad o ddeddfau Prydeinig, deddfau Cymru a Lloegr, a nawr wrth gwrs deddfau Cymru yn unig, yn y Gymraeg a'r Saesneg, i gyd yn weithredol yma yng Nghymru.

Ac, o gofio maint sylweddol y ddeddfwriaeth—yn ei gwahanol ffurf; deddfwriaeth sylfaenol, is-ddeddfwriaeth, offerynnau statudol ac yn y blaen—sydd ar gael, heb anghofio wrth gwrs fod yr holl wahanol ddeddfwriaeth yma hefyd yn gallu cael ei diwygio a'i hail-wneud yn gyson dros y blynyddoedd mewn gwahanol ffyrdd ac mewn gwahanol lefydd, yna mae'r tirlun deddfwriaethol yn gallu bod yn anodd hyd yn oed i'r mwyaf medrus, ac, wrth gwrs, heb sôn am y toriadau i gefnogaeth ariannol i alluogi unigolyn i gael mynediad i gyfraith yn y lle cyntaf, gyda mwy o unigolion yn dewis amddiffyn eu hunain, wrth gwrs, achos prinder y gefnogaeth ariannol. Yna mi allwch fod yn sôn am storm berffaith o gynnydd mewn cymhlethdod y gyfraith yn cael ei gyplysu efo llai o allu i gael gafael ar y gyfraith honno ar ran yr unigolyn yn y stryd. Dyna bwysigrwydd y ddeddfwriaeth yma gerbron.

Mae'r memorandwm esboniadol yn nodi bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi pasio 59 o Fesurau neu Ddeddfau ers 2007, a bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud tua 6,000 o offerynnau statudol ers 1999. Mae'r bwriad codeiddio, i drefnu deddfwriaeth fesul pwnc mewn un lle, i'w groesawu'n fawr, a hefyd y cyfle i arloesi wrth greu deddfwriaeth yn y Gymraeg sydd efo'r un statws â deddfwriaeth yn y Saesneg, ac mae creu deddfau dwyieithog o'r dechrau yn creu deddfau gwell, fel dywedodd tystion wrthym pan oeddem yn craffu ar y Bil yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Mae yna heriau a mwynhad wrth ddehongli materion cyfreithiol yn y ddwy iaith yn gydradd, ochr yn ochr, ac rydym yn croesawu'r bwriad arloesol yma yn y Bil. 

I gloi, ni allwn anghofio ein hanes. Efallai rwyf wedi crybwyll o'r blaen waith arloesol Hywel Dda wrth greu deddfau i Gymru, gan gynnwys hawliau i fenywod, nôl yn y flwyddyn 909 oed Crist. Roedd honno'n flwyddyn fawr. Gyda chytuno a phasio Bil Deddfwriaeth (Cymru), gall 2019 fod yn flwyddyn fawr, hefyd.