Grŵp 1: Diffiniadau yn Rhan 1 o’r Bil (Gwelliannau 13, 14)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:56 pm ar 25 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 5:56, 25 Mehefin 2019

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A allaf i ddiolch i Suzy a Mark a hefyd i'r Cwnsler Cyffredinol am eu sylwadau ar y gwelliannau? Dwi ddim yn bwriadu siarad eto yn y drafodaeth yma chwaith, felly, yn ogystal â chydnabod unwaith eto fod yna gryn dipyn o gydweithio wedi bod yn mynd ymlaen y tu ôl i'r llenni i addasu'r gwelliannau yma sydd gerbron, mi fuaswn i'n dymuno gweld pasio'r gwelliant yn fy enw i, sydd yn pwysleisio ac yn diffinio hygyrchedd, fel y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i olrhain.

Diolch i bawb am ei sylwadau cefnogol, a diolch i'r Cwnsler Cyffredinol hefyd am ei gefnogaeth. Byddwn ni hefyd yn cefnogi'r gwelliannau eraill, ond rwyf hefyd yn gwthio hwn i bleidlais ac yn dymuno gweld pawb yn cefnogi pasio'r gwelliant sydd yn fy enw i. Diolch yn fawr.