1. Dadl ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 26 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:30, 26 Mehefin 2019

Os caf i sylw pawb, er mwyn i fi fedru croesawu, yn arbennig, 39 o Aelodau'r Senedd Ieuenctid i ymuno â ni heddiw, yn ein sesiwn gyntaf ni o'r math yma, ac, o bosib, y sesiwn gyntaf yn y byd lle mae senedd genedlaethol wedi cwrdd mewn sesiwn ffurfiol gyda senedd ieuenctid etholedig hefyd. Dyw'r Senedd Ieuenctid ddim eto yn flwydd oed, ond eisoes mae wedi aeddfedu ac wedi esblygu mewn modd y gallwn ni i gyd fod yn falch iawn ohoni, ac mae blaenoriaethau'r Senedd Ieuenctid honno yn flaengar, yn feddylgar, ac yn feiddgar. Ac rŷm ni i gyd yn edrych ymlaen, dwi'n siŵr, i glywed mwy am y Senedd Ieuenctid yn ystod y sesiwn yma y prynhawn yma. Byddwn hefyd yn trafod a phleidleisio ar gynnig arbennig, sydd yn amlinellu egwyddorion craidd y berthynas a fydd yn datblygu rhwng y Senedd Ieuenctid a'r Cynulliad yma, wrth i'r gwaith pwysig o gynrychioli buddiannau pobl ifanc Cymru fynd rhagddo.

Felly, heb oedi mwy, rwy'n cyflwyno'r cynnig, ac yn galw ar Maisy Evans, Aelod Senedd Ieuenctid Torfaen, i ddweud mwy wrthym ni am arwyddocâd y cynnig hwnnw. Maisy Evans.