1. Dadl ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 26 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Diolch yn fawr, Llywydd. Braint ac anrhydedd yw sefyll yn y Siambr ar y diwrnod tyngedfennol hwn, ac mae'n wych gweld Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau'r Senedd Ieuenctid gyda'i gilydd ar ddiwrnod mor hanesyddol yng Nghymru.

Cyfarfu Senedd Ieuenctid Cymru yma, yn y Siambr hon, am y tro cyntaf ym mis Chwefror eleni, a chawsom gyfle i siarad am y materion sydd bwysicaf i ni fel pobl ifanc yng Nghymru. Roedd y cyfraniadau a gafwyd yn angerddol, yn amrywiol ac yn ddiffuant. Dewisais i siarad am sgiliau bywyd yn y cwricwlwm, ac roedd y materion a godwyd yn cynnwys addysg ryw, ariannu ac, yn bennaf, addysg wleidyddol a dinasyddiaeth, gan fod barn pobl ifanc ar wleidyddiaeth wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Yng nghyd-destun Brexit a ffug newyddion, mae pobl ifanc mewn sefyllfa fwy bregus nag erioed o’r blaen, gyda materion o'r fath yn cael effaith uniongyrchol ar ein dyfodol ni. Mi fydd addysg safonol yn seiliedig ar wleidyddiaeth Prydain, ac yn ehangach, yn sicrhau bod dyfodol cenedlaethau iau wedi'i ddiogelu.

Fel y soniwyd eisoes, y materion y gwnaethom bleidleisio i'w blaenoriaethu yn ein tymor dwy flynedd cyntaf yw: iechyd emosiynol ac iechyd meddwl; sbwriel a gwastraff plastig; a sgiliau bywyd yn y cwricwlwm. Bydd fy nghyd-Aelodau yn helaethu ar y gwaith sy'n digwydd ym mhob un o'r meysydd hyn yn y man. Er mwyn i'n gwaith fod yn effeithiol, ac er mwyn i Senedd Ieuenctid Cymru allu cynrychioli holl bobl ifanc Cymru, mae'n hanfodol bod perthynas rhyngom ni a'r Cynulliad. Mae’r datganiad, a ddarllenir gennyf yn fuan, yn amlinellu’r egwyddorion i'r ddau sefydliad weithio gyda'i gilydd a'r hyn y gall pobl ifanc ei ddisgwyl gennym ni. Pleidleisiodd Senedd Ieuenctid Cymru yn ddiweddar i gytuno'r datganiad, ac rydym newydd gynnal digwyddiad yn y Pierhead i bwysleisio pwysigrwydd heddiw, o ran sicrhau bod ein gwaith yn cael ei ystyried gan y Cynulliad. Dyma ddatganiad Senedd Ieuenctid Cymru a’r Cynulliad:

Mae’r datganiad hwn yn nodi’r egwyddorion sy’n sail i’r berthynas rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd Ieuenctid Cymru, i sicrhau bod gan bobl ifanc yng Nghymru lais ar y lefel uchaf. Bydd Senedd Ieuenctid Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i: sicrhau bod materion, penderfyniadau, a gwaith Senedd Ieuenctid Cymru yn cael eu harwain gan ei Haelodau a'r bobl ifanc y maent yn eu cynrychioli; sicrhau bod gwaith Senedd Ieuenctid Cymru yn rhan annatod o'r broses gwneud penderfyniadau a strwythurau democrataidd yng Nghymru; parhau i wella'r ffyrdd y mae pobl ifanc yn cymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau yng Nghymru, yn unol ag erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sy'n datgan bod gan bobl ifanc yr hawl i ddweud eu barn yn rhydd ac i’w barn gael ei hystyried; ymrwymo i hawliau pobl ifanc i gael y gefnogaeth sydd ei hangen i ymgysylltu â gwaith Senedd Ieuenctid Cymru, a'u hannog i weithio, cyfathrebu ac ymgysylltu yn nwy iaith swyddogol y Cynulliad; sicrhau y gall pobl ifanc gyfrannu mewn amgylchedd hygyrch, cynhwysol a diogel; a gweithredu yn ôl egwyddorion didwylledd a thryloywder, gan ddarparu adborth clir, hygyrch ac o ansawdd da ar gyfraniad pobl ifanc i waith Senedd Ieuenctid Cymru a busnes y Cynulliad. [Cymeradwyaeth.]