1. Dadl ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 26 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 1:49, 26 Mehefin 2019

Diolch, Llywydd, ac mae'n bleser cael y cyfle i siarad ar ran y Ceidwadwyr Cymreig ar y ddadl bwysig hon. Gaf i ddweud, Llywydd, fod creu Senedd Ieuenctid Cymru yn un o lwyddiannau mwyaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac mae mor bwysig o ran cryfhau llais pobl ifanc yma yng Nghymru?

Hoffwn, yn gyntaf oll, ddiolch i Aelodau o'r Senedd Ieuenctid a agorodd y ddadl hon am eu hareithiau arbennig a deallus. Mae'n gwbl glir bod eu cyflwyniadau wedi cael eu hymchwilio a'u hystyried yn dda iawn, ac maent yn sicr wedi rhoi digon i ni feddwl am wrth ystyried sut yr ydym ni, fel Aelodau Cynulliad, yn mynd i’r afael â rhai o’r materion pwysicaf sy’n wynebu ein cymdeithas.

Wrth gwrs, y pwnc cyntaf y mae’r Senedd Ieuenctid wedi dewis canolbwyntio arno yw iechyd meddwl a lles emosiynol, sy’n fater hollbwysig i bawb yng Nghymru. Ar yr ochr hon o’r Siambr, rŷm ni’n awyddus i weld mwy o waith yn cael ei wneud i annog mesurau ataliol cryfach ac ymyriadau cynnar. Er enghraifft, rŷm ni am weld ysgolion ledled Cymru yn cymryd camau i ddatblygu ymwybyddiaeth ofalgar yn amgylchedd eu hysgolion, ac rŷm ni am i gyflogwyr edrych ar ffyrdd y gall eu busnesau ddarparu cymorth mwy cefnogol i’r rhai sy’n byw ac yn gweithio gyda chyflyrau iechyd meddwl.

Rŷm ni eisoes yn gwybod bod amaethyddiaeth yn cario un o’r cyfraddau hunanladdiad uchaf, ac felly dwi’n credu ei bod hi’n deg dweud y gallai unrhyw un ohonom ni ei chael hi’n anodd ymdopi â’n hiechyd meddwl unrhyw bryd yn ein bywydau. Nid oes ots ble rŷch chi’n byw, neu ble rŷch chi’n gweithio, rŷm ni i gyd yn ddynol, ac felly gallwn ni gael trafferth gyda phryderon a phwysau unrhyw amser o’n bywydau. Felly, mae’n hanfodol bod dull Llywodraeth Cymru o ymdrin ag iechyd meddwl yn cwmpasu ei holl feysydd polisi, fel bod Llywodraeth Cymru yn ystyried yr effaith y gallai ei strategaethau eu cael ar les iechyd meddwl pobl pan fydd yn cyflwyno strategaethau ar gyfer yr economi, yr amgylchedd a thai.

Dwi’n hynod o falch bod y Senedd Ieuenctid wedi dewis sgiliau bywyd yn y cwricwlwm fel ei hail flaenoriaeth, oherwydd mae fy nghyd-Aelodau a minnau wedi bod yn ymgyrchu dros hyn ers peth amser. Mae fy nghyd-Aelod Suzy Davies, er enghraifft, wedi bod yn arwain y ffordd wrth alw am ddiffibrilwyr i gael eu rhoi mewn ysgolion ac i ddysgu sgiliau cymorth cyntaf pwysig, fel CPR, mewn ysgolion ledled y wlad. Mae fy nghyd-Aelod Mark Isherwood hefyd wedi bod yn galw am ychwanegu Iaith Arwyddion Prydain at y cwricwlwm cenedlaethol ac am fynediad gwell at wasanaethau iaith arwyddion i blant a phobl ifanc ym meysydd iechyd a thrafnidiaeth gyhoeddus. A bydd Aelodau’n ymwybodol fy mod i wedi galw am well gwasanaethau cymorth i blant a phobl ifanc sy’n cael trafferth gydag awtistiaeth, gan gynnwys hyfforddiant i athrawon a gweithwyr addysgol, fel bod dysgwyr ag awtistiaeth yn cael mynediad at y gofal a’r cymorth priodol drwy’r system addysg.

Yn olaf, Llywydd, dwi’n falch taw trydedd flaenoriaeth y Senedd Ieuenctid yw taclo sbwriel a gwastraff plastig. Mae’r pwnc yma’n sicr wedi ei wthio i frig yr agenda gwleidyddol yn ddiweddar oherwydd rhaglenni fel Blue Planet, sydd wedi codi ymwybyddiaeth y mater yma ymysg y cyhoedd. Mae digon o enghreifftiau o arfer da ledled Cymru sydd yn delio â sbwriel a gwastraff plastig, ond mae’n glir bod angen inni wneud mwy i hyrwyddo’r gweithgareddau hynny. Ac mae yna gyfrifoldeb gennym ni i gyd, fel unigolion, i fod yn llawer mwy cyfrifol ar fel rŷm ni’n mynd i’r afael â’r broblem enfawr yma. Rŷm ni i gyd yn ffodus iawn i fyw mewn gwlad mor brydferth, ond er mwyn cadw ei harddwch ar gyfer y bobl ifanc sydd gyda ni heddiw, ac i genedlaethau'r dyfodol, mae’n hanfodol ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i’w diogelu a’i chadw’n lân.

Felly, wrth gloi, Llywydd, gaf i, unwaith eto, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, ddiolch i Aelodau’r Senedd Ieuenctid sydd eisoes wedi siarad am eu cyfraniadau, a hefyd i holl Aelodau’r Senedd am y gwaith da y maen nhw wedi’i wneud yn barod yn yr amser byr ers iddynt gael eu hethol? Edrychaf ymlaen at glywed mwy gan y Senedd Ieuenctid ar eu blaenoriaethau yn y dyfodol ac i weithio’n agos iawn gyda nhw i ddatblygu syniadau a sicrhau bod y syniadau hynny’n cael eu gwireddu. Ac, wrth gwrs, fe fyddwn ni ar ochr hon y Siambr yn cefnogi’r cynnig hwn sydd ger ein bron ni heddiw. Diolch yn fawr iawn. [Cymeradwyaeth.]