1. Dadl ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 26 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Dioch, Llywydd. Prynhawn da, ac mae yn brynhawn da iawn yma yn y Senedd. Fy enw i yw Cai Phillips a dwi’n Aelod Senedd Ieuenctid dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Mae heddiw yn ddiwrnod hanesyddol a phwysig gan ei fod yn rhoi cyfle inni gwrdd a chydweithio â’r Aelodau 'hŷn'. Ar un ochr, profiad a doethineb, ac ar yr ochr arall, brwdfrydedd a syniadau newydd. Gobeithio y gallwn gydweithio i ddatrys rhai o’r problemau mawr sy’n ein hwynebu fel cenedl. Mae hefyd yn ddiwrnod i ddathlu 20 mlynedd o ddatganoli, ac, wrth gwrs, roedd canlyniad sir Gaerfyrddin wedi sicrhau 'ie' bendant i sefydlu Cynulliad i Gymru.

Rwy’n falch iawn o gynrychioli fy nghyd-Aelodau yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Dyma ardal sy’n odidog iawn, gyda thraethau, mynyddoedd a chefn gwlad. Mae yna saith Aelod yn y rhanbarth, sef Arianwen, Lois, Caleb, Emily, Rhys, Ellie a fi. Ni yw magnificent seven y rhanbarth, ac ers cael ein hethol rydym wedi cyfarfod ddwywaith, a thrafodwyd pynciau llosg sy’n bwysig i bobl ifanc, ac yn benodol y tri mater a gafodd eu dewis yn ein cyfarfod seneddol cyntaf. 

Mae’n braf adrodd nôl ein bod wedi derbyn ymateb positif gan bobl ifanc ein rhanbarth. Mae’r Aelodau wedi codi ymwybyddiaeth mewn gwleidyddiaeth ac ennyn diddordeb mewn materion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Rydym yn sicr bod ein presenoldeb ar wefannau cymdeithasol wedi helpu i godi proffil gwaith y Senedd Ieuenctid. Er hyn, nid oes dim byd gwell na chwrdd wyneb yn wyneb â'n cyfoedion a chael sgyrsiau am yr hyn sy’n bwysig ac yn eu poeni, er enghraifft drwy waith gwych cynghorau sirol ieuenctid, fel yr un yn sir Gâr. Hefyd, mae nifer o Aelodau wedi bod i ymweld ag ysgolion a sefydliadau yn eu hetholaethau. Yn ogystal, bydd yr Aelodau yn mynychu rhai o ddigwyddiadau mwyaf yr haf, fel yr Eisteddfod Genedlaethol a'r sioe frenhinol, er mwyn casglu barn pobol ifanc, ac edrychaf ymlaen yn bersonol at glywed barn ymwelwyr ifanc yn y sioe. Mae’r ffyrdd hyn o ymgysylltu â phobol ifanc yn sicrhau bod pawb yn cael y siawns i ddweud eu dweud. 

Mae’r digwyddiad a'r datganiad heddiw yn mynd i roi sylfaen gadarn i’r Senedd Ieuenctid am flynyddoedd i ddod. Mae’n rhoi sicrwydd a hyder i Aelodau'r Senedd Ieuenctid wrth wneud gwaith yn eu hardaloedd lleol, ac o fewn eu pwyllgorau. A bydd y gwaith a gynhelir i bwrpas, gan y bydd y Cynulliad yn gwrando ac yn gweithredu ar yr hyn sydd gan yr ifanc i'w ddweud. Rydym yn edrych ymlaen at yr her. Diolch. [Cymeradwyaeth.]