Part of the debate – Senedd Cymru am 6:21 pm ar 26 Mehefin 2019.
Dyma ni yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio, oni bai bod tri Aelod eisiau imi ganu'r gloch. Dwi'n symud yn syth i'r bleidlais, felly, ac mae'r bleidlais ar ddadl Plaid Cymru ar y sector addysg uwch. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, neb yn ymatal, 34 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig heb ei ddiwygio wedi'i wrthod.