Gwaredu Asedau Eiddo'r Sector Cyhoeddus

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 26 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:35, 26 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r egwyddor o reoli asedau'n dda, gan gynnwys prosesau gwerthu asedau dros ben. Drwy ganllawiau a gyhoeddwyd megis 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru' a'r gwaith parhaus ar gydweithredu ar asedau a arweinir gan Ystadau Cymru, rydym yn ceisio sefydlu arferion gorau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.