Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 26 Mehefin 2019.
Weinidog y Cabinet, mae saga'r tir yn Llys-faen yng Nghaerdydd sy'n cael ei werthu am £1.8 miliwn gan gronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio, ac a werthwyd wedyn am £39 miliwn wedi cael llawer o sylw. Ond deallwn fod achos cyfreithiol wedi'i gychwyn ym mis Rhagfyr 2017 yn erbyn y ddau gwmni a oedd yn gynghorwyr i'r gronfa ar y pryd, sef Amber Fund Management a grŵp Lambert Smith Hampton. A allai'r Gweinidog roi'r newyddion diweddaraf inni am y sefyllfa ddiweddaraf yn yr achosion cyfreithiol hyn?