Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 26 Mehefin 2019.
Tynnodd Janet Finch-Saunders sylw at faterion pwysig, ond rwyf am edrych ar hyn o safbwynt ychydig yn wahanol. Yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd a ddatganwyd gennym, mae'n amlwg fod angen i ni leihau ein milltiroedd bwyd ac annog mwy o bobl i dyfu eu bwyd eu hunain neu brynu bwyd lleol. Felly, pan fyddwch yn ystyried asedau dros ben, tybed a allech ystyried darparu safleoedd newydd ar gyfer rhandiroedd i bobl sy'n agos at eu cartrefi, lle nad oes rhai ar gael, oherwydd byddai hynny'n galluogi pobl nad oes ganddynt ardd ar hyn o bryd, ac sydd heb le i dyfu eu llysiau, i allu gwneud hynny. Felly, tybed a ydych wedi ystyried y math hwnnw o beth yn y pethau hyn?