Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 26 Mehefin 2019.
Rwy'n dal i haeru bod camgymeriadau wedi'u gwneud yn yr ystyr fod Llywodraeth Cymru wedi gosod trap iddi'i hun, fod Llywodraeth y DU wedi manteisio arno wedyn, ac rwyf am gael sicrwydd na ellir gwneud camgymeriadau o'r fath eto.
O ystyried yr oedi, os mynnwch, a'r angen i wario arian ar y M4 yn awr, a fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi mai dyma'r amser i ailddatgan egwyddorion cyffredinol y fframwaith cyllidol a chytundebau rhynglywodraethol eraill, sy'n caniatáu ac yn sicrhau hyblygrwydd llawn i Weinidogion yn Llywodraeth Cymru, ac a wnaiff y Gweinidog gytuno i fynd ar drywydd hynny fel mater o frys gyda Llywodraeth y DU fel nad ydym yn wynebu'r un sefyllfa eto?