Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 26 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:42, 26 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Fe gofiwch y byddai hyd at £1 biliwn o arian wedi'i glustnodi ar gyfer y M4 pe bai'r penderfyniad wedi'i wneud i wneud y Gorchmynion hynny. Ond mae'n rhaid i ni gofio mai'r hyn yw'r £1 biliwn hwnnw yw £150 miliwn o fenthyciadau y gallwn eu defnyddio ar sail flynyddol hyd at uchafswm o £1 biliwn. Byddwch wedi clywed datganiadau diweddar Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth—a datganiadau'r Prif Weinidog—pan ddywedodd mai'r grŵp gorchwyl neu'r comisiwn sydd ar hyn o bryd yn edrych ar ffyrdd o leddfu a mynd i'r afael â'r problemau trafnidiaeth a'r tagfeydd yn ardal Casnewydd a'r cyffiniau fydd yn penderfynu ar y cyllid hwnnw yn y lle cyntaf.