Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 26 Mehefin 2019.
Diolch i chi am godi hynny, ac mae hwn yn faes sydd o ddiddordeb arbennig i'r Prif Weinidog. Mae'n eitem arall a oedd ym maniffesto'r Prif Weinidog. Nid wyf wedi cael sgwrs uniongyrchol am y goedwig genedlaethol gyda Gweinidog yr amgylchedd, ond bûm mewn cysylltiad â'i swyddogion a fu'n fy nghynghori ar y goblygiadau posibl o ran cost ar gyfer hynny oherwydd, yn amlwg, mae angen y buddsoddiad cyfalaf arnoch, ond mewn gwirionedd, pan fyddwch yn plannu coetiroedd, mae yna effaith refeniw a chanlyniad refeniw i hynny ar sail barhaus hefyd. Felly, rwyf wedi bod yn ceisio deall y goblygiadau ariannol yn well gyda chymorth swyddogion y Gweinidog.