Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 26 Mehefin 2019.
Yn sicr. A byddwn bob amser yn ceisio sicrhau'r lefel orau. Yn yr Alban, pan gyflwynwyd treth trafodiadau tir ac adeiladau am y tro cyntaf yn 2015, gwn fod ganddynt gyfradd amhreswyl uwch o 4.5 y cant, fel y dywedodd David Melding, ac roedd honno'n gyfradd uwch na threth dir flaenorol y dreth stamp ar y pryd, ond wedyn, cynyddodd refeniw treth yn yr Alban. Y flwyddyn ganlynol, cynyddodd Llywodraeth y DU gyfradd uchaf treth dir y dreth stamp i 5 y cant, a gostyngodd refeniw treth yn yr Alban yn sgil hynny, er bod ganddynt gyfradd gymharol is yno. Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban y byddant yn cynyddu eu cyfradd uchaf i 5 y cant, a rhagwelir y bydd hynny'n cynyddu refeniw treth. Felly, credaf ei bod yn bwysig ystyried yr hyn sy'n digwydd yn y gwledydd cyfagos, ond i wneud y penderfyniadau sydd orau i ni yng Nghymru bob amser.