2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 26 Mehefin 2019.
7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau biliau'r dreth gyngor yng Ngorllewin De Cymru? OAQ54115
Mae ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn rhoi cymorth i oddeutu 280,000 o gartrefi gyda'u biliau treth gyngor. Rydym wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu cyngor clir a chyson ar y cynllun hwn, a'r gostyngiadau a'r eithriadau eraill sydd ar gael, i sicrhau bod pob cartref yn derbyn y cymorth y mae ganddynt hawl i'w gael.
Weinidog, mae fy rhanbarth wedi wynebu cynnydd cyfartalog o 60 y cant yn y dreth gyngor band D ers 2007. Dros y cyfnod hwnnw, roedd chwyddiant oddeutu 2.5 y cant yn unig ar gyfartaledd. Dros yr un cyfnod, mae casgliadau sbwriel wedi eu haneru, mae canolfannau dydd wedi cau, mae llyfrgelloedd wedi cau ac mae gwasanaethau canolfannau hamdden wedi wynebu toriadau. Pam fod fy etholwyr yn talu cymaint yn fwy am gymaint yn llai? Weinidog, a wnewch chi ymrwymo'ch Llywodraeth i dorri trethi cyngor y flwyddyn nesaf, neu a fydd fy etholwyr, unwaith eto, yn wynebu cynnydd sy'n fwy na'r cynnydd yn eu cyflogau?
Wel, awdurdodau lleol sy'n pennu lefel y dreth gyngor yng Nghymru, ond rydym wedi parhau i ddiogelu llywodraeth leol yng Nghymru rhag toriadau sylweddol yn wyneb cyllidebau llai a llai gan Lywodraeth y DU. Wedi dweud hynny, rwy'n gwbl ymwybodol o'r pwysau difrifol sy'n wynebu awdurdodau lleol, ond maent yn derbyn dros £4.2 biliwn gan Lywodraeth Cymru mewn cyllid refeniw craidd i'w wario ar ddarparu'r gwasanaethau allweddol hynny y cyfeiriwch atynt, ac fe wnaethom gynnwys cyllid ychwanegol yn y gyllideb derfynol, felly cynyddodd y setliad 0.2 y cant ar sail gyfatebol o gymharu â'r llynedd. Felly, yn amlwg, mae hwn yn gyfnod heriol.
Ond mae cyfradd gyfartalog treth gyngor band D £159 yn is na chyfradd gyfartalog treth gyngor band D yn Lloegr. Ac rydym hefyd wedi caniatáu i awdurdodau lleol gynnal yr hyblygrwydd mwyaf posibl wrth reoli eu cyllidebau drwy gydol y cyfnod o gyni, felly nid ydym wedi gosod cyfyngiadau cenedlaethol ar gynnydd mewn cyllidebau, ond rydym yn cydnabod bod hynny'n fater i'w bennu'n lleol. Hefyd, nid ydym yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal refferenda drud na chlustnodi arian a godir drwy'r dreth gyngor at ddibenion penodol. Felly, rydym yn ceisio rhoi cymaint o hyblygrwydd ag y gallwn i awdurdodau lleol, gan geisio sicrhau bod y dreth gyngor yn decach. Felly, rydym wedi cael gwared ar y gosb o garchar am beidio â thalu'r dreth gyngor. Rydym wedi deddfu i sicrhau bod pawb sy'n gadael gofal yng Nghymru wedi'u heithrio rhag gorfod talu'r dreth gyngor hyd at eu pen blwydd yn 25, ac rydym hefyd yn parhau â'n cynllun gostyngiadau'r dreth cyngor, sy'n golygu, fel rhan o'r 280,000 o gartrefi sy'n derbyn cymorth, nad yw 220,000 o'r rheini yn talu ceiniog. Rydym yn gweithio'n gyson i ddod o hyd i fwy o ffyrdd o sicrhau bod y dreth gyngor yn decach, gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i wneud hynny.