Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 26 Mehefin 2019.
Wel, credaf mai'r peth cyntaf i'w ddweud yw eich bod yn gwbl gywir wrth nodi bod Twrci mewn undeb tollau gyda'r Undeb Ewropeaidd. Ond credaf mai'r hyn sy'n bwysig i ni ei nodi yw mai'r berthynas bwysicaf yw ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd—mae 60 y cant o'n masnach mewn nwyddau gyda'r Undeb Ewropeaidd. Ac felly, yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn deall y byddai unrhyw golled yn y farchnad honno, hyd yn oed am gyfnod byr, yn cael effaith niweidiol iawn ar ein marchnad yma yng Nghymru. Yr hyn sydd o ddiddordeb i mi, mewn gwirionedd, yw bod un o'r arweinwyr yn etholiad arweinyddiaeth y blaid Dorïaidd ar hyn o bryd yn awgrymu bod posibilrwydd y gallem gael senario lle na fyddwn yn talu unrhyw dariffau yn ystod cyfnod gweithredu. Mae Banc Lloegr a'r Undeb Ewropeaidd wedi dweud bod hynny'n sothach, felly os yw'r Aelod am ofyn am gytundebau masnach yn y dyfodol, credaf fod yn rhaid iddo ddeall mai'r cytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd yw'r cytundeb pwysicaf, ac ar hyn o bryd, ymddengys bod y cytundeb hwnnw ymhell i ffwrdd.