Y Targed o 1 Filiwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 26 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 3:51, 26 Mehefin 2019

Weinidog, er mwyn cyrraedd y targed uchelgeisiol yma, dwi'n siŵr y byddwch chi'n cytuno y bydd rhaid i ni recriwtio llawer mwy o athrawon sy'n gallu siarad Cymraeg ac athrawon sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn anffodus, mae nifer y myfyrwyr sy'n gallu addysgu yn y Gymraeg ar y lefel isaf ers 10 mlynedd, a dim ond 10 y cant o ymgeiswyr sy'n gallu gwneud hyn ar hyn o bryd. O ystyried y ffactorau hyn ac yn dilyn rhai o'r sylwadau sydd wedi cael eu gwneud yn y Siambr hon y prynhawn yma, beth ŷch chi a Llywodraeth Cymru yn mynd i wneud er mwyn gwrthdroi’r sefyllfa hon? Pa drafodaethau ŷch chi wedi'u cael gyda'r Gweinidog addysg i sicrhau bod mwy o fyfyrwyr yn cael eu hannog i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg?