Hyrwyddo Twristiaeth yng Nghanolbarth Cymru

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 26 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 3:55, 26 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r gwaith ar fargen dwf canolbarth Cymru, sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a'r gwaith sy'n mynd rhagddo gan awdurdodau lleol ym Mhowys a Cheredigion drwy bartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru. Tybed pa sgyrsiau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelodau yma yn y Llywodraeth, neu'n wir gydag un o'r ddau awdurdod lleol, ar ddatblygu ffrwd dwristiaeth ar gyfer y fargen dwf honno? A hefyd, o ran cefnogi'r sector a'r diwydiant twristiaeth yng nghanolbarth Cymru, a ydych yn cytuno, fel rhan o'r gwaith hwnnw, fod angen atyniad allweddol a rhywbeth i ddenu pobl i'r ardal i gefnogi busnesau bach a busnesau twristiaeth lleol yn ardal canolbarth Cymru?