Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 26 Mehefin 2019.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb? Croesawaf gyhoeddiad y strategaeth cyn diwedd tymor yr haf, gan ei bod yn hanfodol i ni weld y cyfeiriad y mae Llywodraeth Cymru yn mynd iddo. A gaf fi hefyd eich llongyfarch ar nifer y cyfarfodydd rydych wedi'u cael gyda'r gwahanol lysgenhadon a chynrychiolwyr eraill sydd wedi dod i Gymru? Ond rydym am weld y strategaethau, gan ein bod am allu asesu yn erbyn eich targedau a'ch blaenoriaethau a yw'r cyfarfodydd hynny'n ystyrlon ai peidio. Pan gyfarfûm ag Arlywydd Gwlad y Basg, nododd eu bod eisoes wedi nodi strategaethau, a chenhedloedd a rhanbarthau roeddent yn awyddus i weithio gyda hwy o ganlyniad i hynny. A oes gennych flaenoriaethau yn eich strategaeth y gallwn edrych arnynt ac a fydd y blaenoriaethau hynny'n rhan o'r broses ymgynghori honno fel y gallwn edrych ar yr hyn rydych yn ei ddweud, yr hyn rydych yn ei wneud a gweld a ydynt yn diwallu anghenion Cymru?