Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 26 Mehefin 2019.
Diolch i'r Gweinidog am ei hateb ar yr amrywiaeth o bethau a drafodwyd. Tybed a oedd newid hinsawdd yn un o'r eitemau hynny, a sut y gall y ddwy genedl ar raddfa wahanol iawn, gyda gwahanol lefelau o gymhlethdod, ddysgu oddi wrth ei gilydd a dangos arweinyddiaeth. Gwyddom fod Tsieina, yn y degawd diwethaf, wedi buddsoddi'n sylweddol mewn ynni adnewyddadwy, ond ar yr un pryd, maent hefyd yn adeiladu fflyd o orsafoedd ynni glo newydd. Yn y cyfamser, wrth gwrs, rydym ni wedi datgan argyfwng hinsawdd a hefyd wedi gosod ein targedau di-garbon heriol. Felly, tybed a oedd rhan o'r trafodaethau'n ymwneud â'r newid yn yr hinsawdd, nid yn unig o ran yr heriau ond o ran y cyfleoedd a sut y gallwn rannu profiad a dangos arweinyddiaeth ar lwyfan byd-eang?