Part of 4. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 26 Mehefin 2019.
Mae'r Comisiwn yn parhau i ddefnyddio amrywiaeth o dechnolegau i gefnogi Aelodau yn y Siambr. Mae'r rhain yn amrywio o'r feddalwedd a ddefnyddir i ddarparu agendâu, i negeseua ac i bleidleisio, i'r systemau a ddefnyddir i ddarparu cynnwys clywedol, darlledu a chyfieithu ar y pryd. Mae Wi-Fi hefyd ar gael yn y Siambr i alluogi Aelodau i gael mynediad at wasanaethau drwy eu dyfeisiadau personol eu hunain.