Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 26 Mehefin 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf agor dadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar amrywiaeth ym maes llywodraeth leol. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad naill ai drwy roi tystiolaeth yn ysgrifenedig neu ar lafar. Yn fwyaf arbennig, hoffwn ddiolch i'r rhai a rannodd eu profiadau personol naill ai fel cynrychiolwyr etholedig, ymgeiswyr neu ddarpar ymgeiswyr. Gallasom glywed y lleisiau hyn yn uniongyrchol drwy ein harolygon ar-lein a'n hymweliadau ag awdurdodau lleol. Mae'n bwysig clywed profiadau byw pobl, ac roedd y dystiolaeth hon yn cyfoethogi ein dealltwriaeth.
Fel y gwyddom, po fwyaf cynrychioliadol yw ein cynghorwyr o’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, y mwyaf cynhwysol a gwybodus fydd eu penderfyniadau. Yn anffodus, ni cheir yn agos at gynrychiolaeth ddigonol o ran menywod, cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig, unigolion ag anableddau, pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, pobl ifanc, a phobl ar incwm isel.
Er gwaethaf ymdrechion i wella'r sefyllfa, mae cynnydd wedi bod yn araf. Gan fod Llywodraeth Cymru yn disgwyl cyflwyno ei Bil llywodraeth leol ac etholiadau yn ddiweddarach eleni, roeddem yn teimlo y byddai'n amser da inni archwilio rhai o'r materion hyn ac awgrymu atebion mewn da bryd er mwyn iddynt gael eu hystyried yn y ddeddfwriaeth honno.
Nod ein hadroddiad oedd nodi ffyrdd ymarferol o fwrw ymlaen y credwn y gallent wneud cyfraniad pwysig tuag at gynyddu cyfranogiad grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Gwnaethom 22 o argymhellion yn ein hadroddiad, ac mae 20 o'r rheini wedi cael eu derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor gan y Gweinidog. Cafodd dau argymhelliad eu gwrthod.
Mae ein dau argymhelliad cyntaf yn ymwneud â manteisio i'r eithaf ar dechnoleg i alluogi mwy o gynghorwyr i gymryd rhan mewn cyfarfodydd o bell. Gan fod dulliau cyfathrebu fideo bellach yn gyffredin yn y rhan fwyaf o weithleoedd, byddem yn hoffi gweld defnydd gwell o dechnoleg o'r fath i leddfu pwysau amser. Yn fwyaf arbennig, gallai hyn helpu aelodau sy'n gorfod teithio o ymrwymiadau gwaith eraill a'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu. Mae ymrwymiad y Gweinidog i gynnwys darpariaethau yn y Bil arfaethedig i alluogi mwy o ddefnydd o bresenoldeb o bell i'w groesawu felly, ac edrychwn ymlaen at graffu ar y rhain maes o law.
Clywsom y gallai caniatáu i gynghorwyr rannu swydd ag aelod arall, a rhannu'r llwyth gwaith, fod yn ffordd ymarferol o wneud y rôl yn fwy deniadol i grŵp ehangach o ymgeiswyr posibl. Mae rhannu swyddi yn gweithio'n dda ar gyfer nifer o rolau ar draws sectorau, ond nid ydym wedi gweld y duedd honno'n ymestyn i gynnwys gwleidyddion etholedig i raddau helaeth, er i'r arfer gael ei gyflwyno ar gyfer swyddi cabinet gan gyngor Abertawe, lle rhennir y cyfrifoldeb am bortffolios rhwng dau aelod. Cefnogwn yr egwyddor o alluogi rhannu swyddi o'r fath, ac rwy'n falch fod y Gweinidog wedi cadarnhau y bydd y Bil yn hwyluso trefniadau rhannu swyddi ar gyfer arweinwyr ac aelodau gweithredol cynghorau.
Pan gyflwynir darpariaethau yn y Bil, byddem yn disgwyl gweld ymgynghori priodol ar y dull mwyaf effeithiol o weithredu'r rhain, gan gynnwys defnyddio'r profiadau, nid yn unig yn Abertawe, ond mewn sectorau eraill hefyd lle maent wedi llwyddo i sefydlu trefniadau rhannu swyddi mewn arferion gweithio.
Argymhellwyd hefyd y dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i ddichonoldeb caniatáu aelodau anweithredol i rannu swyddi. Rwy'n cydnabod nad yw hwn yn fater syml ac rwy'n cydnabod bod yna gyfyngiadau deddfwriaethol a phroblemau logistaidd ynglŷn â hyn ar hyn o bryd, ond rwy'n croesawu ymrwymiad y Gweinidog i ystyried y mater fel rhan o gam nesaf y rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth. Byddwn yn mynd ar drywydd hyn fel rhan o'n gwaith craffu yn y dyfodol.