Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 26 Mehefin 2019.
Gwnaf, yn bendant, ac os oes gan unrhyw Aelodau awgrymiadau neu enghreifftiau o arferion gorau y gellir eu cyflwyno wedyn ar draws y cynghorau, ar draws y gymuned neu ar raddfa genedlaethol, rwy'n siŵr y buaswn i a'r Gweinidog yn hapus iawn i glywed am hynny. Fel y dywedoch chi, hyd yn oed os yw rhai pobl yn penderfynu nad yw'n gweddu iddynt hwy, byddwn wedi codi ymwybyddiaeth o rôl y cyngor yn y gymuned beth bynnag. Hefyd, yn yr un modd, mae angen i ni ystyried sut y gallwn roi cymorth gwell i bobl nad ydynt wedi llwyddo mewn etholiadau o bosibl, ac sydd eisoes wedi dangos diddordeb mewn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth leol a'r gymuned leol. Ac mewn gwirionedd, rydym wedi gweld drwy'r gwaith a wnaethpwyd gennym a thrwy dystiolaeth y pwyllgor fod rhai pobl, efallai, wedi mynd ymlaen i ddefnyddio'r sgiliau trosglwyddadwy hynny wedyn, fel llywodraethwyr ysgol ac mewn rolau eraill yn y gymuned. Felly, mae'n fater o sut y byddwn yn parhau â'r gefnogaeth honno yn y dyfodol, fel bod pobl am ymgeisio eto. Ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud yn siŵr nad yw pobl yn colli diddordeb oherwydd y diffyg llwyddiant hwnnw—nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn cael eu hethol ar y cynnig cyntaf—felly, sicrhau ein bod yno i gefnogi pobl a mynd â hwy drwy'r broses honno.
Mae'r adroddiad hwn hefyd yn canolbwyntio ar nifer o faterion pwysig, gan gynnwys mynychu o bell, trefniadau rhannu swydd a chymorth i gynorthwyo pobl ag anableddau i geisio am swydd etholedig. Mae'r rhain yn feysydd lle mae gwaith eisoes ar y gweill, ond gallwn bob amser adeiladu ar y gwaith hwn. Felly, yn y Bil etholiadau llywodraeth leol (Cymru) sydd ar y gweill, rydym yn bwriadu diwygio'r adrannau ar fynychu o bell ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 i gynnwys darpariaethau i hwyluso trefniadau rhannu swydd ar gyfer swyddogion gweithredol ac arweinwyr cynghorau. Byddwn yn amlwg yn ystyried pethau lle mae wedi digwydd—yn Abertawe—a lle gallwn ddysgu o fentrau eraill hefyd, fel y dywedodd Helen Mary, rwy'n credu. Bydd yn cynnwys dyletswydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i hyrwyddo safonau ymddygiad priodol, a'i gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi cyfeiriad swyddogol eu haelodau etholedig, yn hytrach na'u cyfeiriad cartref. Felly, byddai angen i'r awdurdodau lleol roi cyfeiriad swyddfa swyddogol i'r Aelodau ei ddefnyddio ar gyfer cyhoeddusrwydd. Cododd Aelodau her y cynnydd mewn cam-drin ar-lein y mae gwleidyddion yn gyffredinol yn ei brofi, yn anffodus—gwn fod llawer ohonom yn y Siambr wedi profi hynny ein hunain—a deallaf fod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol newydd fod mewn cysylltiad â Llywodraeth y DU heddiw, mewn gwirionedd, ynglŷn â sut y gallwn weithio i fynd i'r afael â cham-drin ar-lein gyda chwmnïau cyfryngau cymdeithasol, oherwydd credaf ein bod i gyd yn ymwybodol fod hyn yn rhywbeth y mae gwir angen mynd i'r afael ag ef a'i ddileu, oherwydd nid oes neb yn haeddu hynny. Mae pobl yn aberthu llawer yn bersonol drwy sefyll etholiad i wasanaethu eu cymuned ac mae angen inni barchu ein gilydd fel pobl am yr hyn a wnawn hefyd. Yn unol â hyn, byddwn yn deddfu i ddileu'r angen i gyhoeddi cyfeiriad yr ymgeisydd ar y papur pleidleisio. Bydd llawer o bobl yn gwybod ble mae eu cynghorydd lleol yn byw, ond rwy'n credu bod hynny'n darparu sicrwydd ychwanegol i wneud yn siŵr nad yw ar gael yn gyhoeddus ar-lein er mwyn rhoi tawelwch meddwl i bobl lle gallwn wneud hynny.
Byddwn hefyd yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU ynglŷn â rhoi adran 106 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mewn grym, fel y cynigir yn yr adroddiad, ac mae swyddogion wedi cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i ofyn am farn ar y dull arfaethedig o gyhoeddi ad-daliadau os bydd costau. Rydym wedi ymrwymo i weithio ar ddarparu cronfa mynediad i swydd etholedig ar gyfer Cymru, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo gyda swyddogion ar draws y Llywodraeth a hefyd gyda fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog yma.
Dylem hefyd gydnabod bod camau eisoes wedi'u cymryd i gefnogi amrywiaeth. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud darpariaeth ddeddfwriaethol ar gyfer absenoldeb teuluol i aelodau etholedig er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau i gyfranogiad mewn llywodraeth leol ar gyfer cynghorwyr a allai fod â chyfrifoldebau teuluol. Rydym yn bwriadu diweddaru'r trefniadau hyn yn y Bil etholiadau llywodraeth leol er mwyn ymestyn y darpariaethau i gynnwys rhai sy'n mabwysiadu, ac rydym hefyd yn bwriadu ei gwneud yn haws diweddaru'r trefniadau absenoldeb wrth i'r polisi ddatblygu yn y maes hwn.
Ddirprwy Lywydd, wrth gloi, hoffwn ailadrodd unwaith eto ein bod yn croesawu'r gwaith pwysig hwn gan y pwyllgor a phawb sy'n gysylltiedig ag ef, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'n gilydd i fwrw ymlaen â hyn yn y dyfodol. Rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno ein bod wedi camu i'r cyfeiriad iawn, ond mae'n bryd i ni gynyddu ein gwaith yn y maes hwn ar gyfer ein holl bobl, ein cymuned a'n democratiaeth. Diolch yn fawr.