Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 26 Mehefin 2019.
Y cwestiwn sydd ger ein bron y prynhawn yma yw beth y gellir ei wneud. Rydym wedi cyflwyno'r ddadl hon oherwydd mai ymateb y Llywodraeth bresennol yn ôl pob golwg yw 'Nid oes dim i'w wneud', ac adlewyrchwyd hynny yn eu gwelliant, sy'n dweud wrthym fod popeth yn iawn. Mae prifysgolion yn annibynnol, medd y Llywodraeth wrthym, felly gadewch iddynt fwrw iddi. Yr hyn a ddeallwn o hynny, o bosibl, yw 'Gadewch iddynt suddo neu nofio', ac nid ydym ni ar y meinciau hyn yn meddwl bod hynny'n ddigon da, ac nid yw'r myfyrwyr, teuluoedd myfyrwyr, na'r gweithwyr mewn prifysgolion sy'n siarad â ni yn credu ei fod yn ddigon da.
Mae'r cynnig sydd ger ein bron heddiw yn argymell ffyrdd ymarferol o fynd i'r afael â rhai o'r pryderon ynghylch llywodraethu a'r pryderon ynglŷn â sefydlogrwydd a hyfywedd hirdymor y sector pwysig hwn. Hoffwn gyfeirio'n fyr heddiw, Lywydd, at ddwy enghraifft benodol, enghreifftiau cyfredol, sy'n dangos pa mor wir yw ein pryderon.
Ni fydd neb yn synnu fy ngweld yn pwyso eto ynglŷn â'r pryderon gwirioneddol ddifrifol ynghylch llywodraethu yn Abertawe. Rydym wedi ei godi yma droeon ac nid fi yw'r unig un. Rydym wedi gweld staff uchel iawn yn cael eu hatal o'u swyddi mewn modd eithriadol, prosesau disgyblu nad ydynt gam yn nes at fod yn glir nac yn dryloyw nac wedi'u datrys nag yr oeddent bron naw mis yn ôl; gwelwn yn awr fod yna broblemau difrifol yn codi gydag adroddiadau ariannol. Ni cheir tryloywder. Nid yw myfyrwyr yn gwybod beth sy'n digwydd ac nid yw'r staff yn gwybod beth sy'n digwydd.
Wedi inni godi hyn o'r blaen, gofynnodd y Gweinidog inni dderbyn ei gair fod CCAUC yn mynd i'r afael â'r mater. Wel, naw mis yn ddiweddarach, os oeddwn yn credu hynny naw mis yn ôl, nid wyf yn ei gredu yn awr, ac rwy'n dal i fod ymhell o gael fy argyhoeddi. Y pwynt cyffredinol yw y gallai rhywbeth fel hyn ddigwydd yn unrhyw un o'n sefydliadau addysg uwch, oherwydd, er ei bod yn hanfodol iddynt fod yn annibynnol a bod eu rhyddid academaidd yn cael ei ddiogelu ac nad ydym am iddynt fod yn gwbl atebol i Lywodraeth—ni fyddai neb am weld hynny—mae'r trefniadau llywodraethu ym mhob un o'r sefydliadau hyn yn hynafol, maent yn anhryloyw. Mae'n aneglur iawn beth yw pwerau llys y brifysgol pan all uwch reolwyr y brifysgol, fel y gwnaethant yn Abertawe, barhau i ganslo cyfarfodydd y llys. Nid oes neb a all eu dwyn i gyfrif. Mae ein trefniadau llywodraethu presennol, Lywydd, yn seiliedig ar y dybiaeth o ganol y ganrif ddiwethaf fod pawb sy'n gweithio yn y sector hwn yn hen fois da yn y bôn ac y gellir ymddiried ynddynt a dibynnu arnynt i ymddwyn yn anrhydeddus. Wel, byddai'n dda gennyf pe bai hi felly, ond mae'r castiau sy'n digwydd yn Abertawe yn dangos yn glir fod rhai o'r bobl sydd mewn grym ymhell iawn o fod yn hen fois da.
Mae arnom angen trefniadau llywodraethu cadarn a thryloyw ar gyfer ein prifysgolion sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac fel y dywedodd Suzy Davies, ar gyfer y sefydliadau mawr iawn y soniwn amdanynt yn awr sy'n cyflogi cannoedd a miloedd o bobl, yn ymdrin â miloedd ar filoedd o fyfyrwyr. Mae angen y trefniadau cadarn hynny arnom i sicrhau bod lleisiau myfyrwyr a staff yn cael eu clywed yn glir yn y prosesau hynny ac mae angen mwy o gysondeb ar draws sefydliadau. Mae hyn, i mi, yn hollbwysig os yw'r Llywodraeth o ddifrif ynglŷn â gwrthsefyll y dull Seisnig o farchnadeiddio'r sector, fel y dywed ei bod.
Felly, hoffwn gyfeirio'n fyr at un enghraifft gyfredol iawn o ansefydlogrwydd ariannol a'r peryglon y mae hynny'n eu creu, ac rwyf am dynnu sylw yma at yr anawsterau sy'n wynebu Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Rwyf am ganolbwyntio'n fyr i ddechrau ar enghraifft prifysgol Llanbedr Pont Steffan, fel yr oedd, sefydliad sy'n annwyl iawn i lawer o bobl. Nid oes llawer ohonom yn sylweddoli mai dyma'r pedwerydd sefydliad addysg uwch hynaf yng Nghymru, Lloegr a'r Alban; roeddwn yn ceisio gweld a oedd hynny'n wir ar draws yr ynysoedd hyn, ond nid oeddwn yn gallu cael y dyddiad ar gyfer Dulyn. Mae'n hanfodol i'w chymuned. Mae'n chwarae rhan enfawr, er ei bod wedi lleihau, ac mae llawer o fy etholwyr wedi cysylltu â mi yn poeni'n wirioneddol. Rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y myfyrwyr a nifer y staff dros y blynyddoedd, ac mae rhai pobl yn cysylltu â mi sy'n cwestiynu ymrwymiad hirdymor y Drindod Dewi Sant fel sefydliad i gampws Llanbedr Pont Steffan.
Mae etholwyr yn poeni'n fawr hefyd am effaith bosibl yr anawsterau hyn ar y gwasanaethau addysg bellach a ddarperir gan Goleg Sir Gâr. Dyma enghraifft o'r ffordd y mae'r sefydliadau hyn wedi tyfu, a grwpiau o sefydliadau ydynt a rhaid iddynt gael trefniadau llywodraethu sy'n gweithio yn y cyd-destun hwnnw. Rydym yn wynebu risgiau i'n sector addysg bellach ar draws Sir Gaerfyrddin oherwydd problemau ariannol mewn rhannau eraill o sector Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, oherwydd bod y coleg yn rhan o'r grŵp hwnnw. Dyma enghraifft o sut y gall gwendid y prifysgolion yn ariannol gael effeithiau posibl y tu hwnt i'w ffiniau eu hunain.
Mae fy etholwyr yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ddwyn y brifysgol i gyfrif am y problemau hyn a bod yno i'w chefnogi. Rhaid imi ddweud, yn anffodus, fy mod yn cyd-fynd yn llwyr â Bethan Sayed nad yw gwelliant y Llywodraeth yn ddim ond nonsens hunanglodforus. Os yw'r Gweinidog yn credu o ddifrif nad oes problemau difrifol yn ein sector addysg uwch, mae'n amlwg nad yw'n byw yn yr un wlad ag rwy'n byw ynddi. Mae'n gofyn i ni gredu bod popeth yn iawn. Mae'r staff yn y prifysgolion yn gwybod nad ydyw, mae'r myfyrwyr yn gwybod nad ydyw, mae'r cymunedau lle mae'r prifysgolion hynny wedi'u lleoli yn gwybod nad yw popeth yn iawn. Pwysaf ar y Senedd i wrthod pob un o'r gwelliannau ac eithrio gwelliant 4 a chefnogi'r cynnig fel y mae, i sicrhau dechrau newydd a dyfodol diogel i'r sefydliadau hollbwysig hyn.