Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 26 Mehefin 2019.
Wel, nid wyf yn siŵr fod pawb yn eich plaid yn credu hynny, ond diolch am yr ymyriad.
Deuwn at y ddadl hon hefyd gan wybod y gall sicrwydd ariannol newid dros nos. Mae sefydlogrwydd ariannol prifysgolion yn dibynnu ar hyn, yn enwedig mewn perthynas â benthyca. Nawr, deallaf fod Cyngor Addysg Uwch Cymru yn chwarae rôl reoleiddiol yn hyn o beth ac yn y pen draw, ni fyddai benthycwyr yn fodlon benthyg o gwbl o dan amgylchiadau o ddiffyg hyder sylfaenol mewn rhai prifysgolion. Ond dylem gyfaddef hefyd fod lefel benthyca rhai o brifysgolion Cymru yn uchel o gymharu â'r incwm cyffredinol. Mewn sefyllfa o sioc economaidd neu ddirywiad sydyn a difrifol yn nifer y myfyrwyr, pa mor agored i niwed ydym ni? Beth am sefyllfa lle mae benthyciadau sy'n cael eu rhoi gan ddisgwyl incwm cyson yn deillio o ffioedd a benthyciadau myfyrwyr yn cael eu heffeithio gan ostyngiad mewn ffioedd ac incwm rhagamcanol? Sut y bydd hyn yn effeithio ar rai prifysgolion yng Nghymru? Dyma'r gwirioneddau y mae angen inni fynd i'r afael â hwy. Mae'r cwestiynau hyn ac eraill yn sail i pam y credwn fod angen inni gael adolygiad llawn o sefydlogrwydd ariannol a chynaliadwyedd y sector cyfan, a hynny ar frys.
Cyhoeddwyd adolygiad Diamond ym mis Medi 2016, ac mae elfennau ohono nad ydynt yn weithredol eto, ac nid yw ei oblygiadau ariannol llawn wedi'u teimlo eto. Ond clywaf gan lawer o'r sectorau nad yw'r difidend Diamond fel y'i gelwir yn mynd i fod yn ateb i bob dim—nid yw'n mynd i allu lliniaru llawer o'r problemau ariannol a wynebir yn awr, oherwydd bod y dirwedd y cynhyrchwyd Diamond arni eisoes wedi newid.
Yn fy marn i, rydym yn dal i fod yn bell o brofi effeithiau Brexit. Os daw Boris Johnson yn Brif Weinidog, sy'n ymddangos yn fwyfwy tebygol, beth fydd effeithiau hynny erbyn mis Hydref, pan fydd wedi addo gadael yr UE doed a ddelo? Sut y bydd statws gynyddol faeddedig a chwerthinllyd Prydain dramor yn effeithio ar recriwtio rhyngwladol a brand prifysgolion Cymru? Rydym eisoes yn gwybod bod rhagweld Brexit ynddo'i hun a'r anhrefn cyn inni adael hyd yn oed wedi achosi gostyngiad mawr yn niferoedd y myfyrwyr o'r UE.
Rydym yn profi newidiadau demograffig a chystadleuaeth gynyddol o Loegr. Mae tua 40 y cant o fyfyrwyr Cymru yn gadael Cymru i astudio mewn man arall, gan waethygu ein draen dawn a hyfywedd ein sector addysg uwch, a chredaf fod angen mynd i'r afael â hyn. Mae adolygiad Augar yn mynd i olygu y bydd angen newid rhannau o adolygiad Diamond hefyd, ac os bydd y newid hwnnw'n arwain at newid Llywodraeth, mae angen inni ddeall sut y mae'r dirwedd honno'n effeithio ar Gymru, a gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru'n dweud wrthym sut y bwriadant ymateb i'r adolygiad penodol hwnnw.
Ac i ddod at rai agweddau ar y cynnig a gyflwynwyd gennym a'r gwelliannau, yn amlwg ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth. A deallaf y bydd Gweinidog addysg y Democratiaid Rhyddfrydol, gyda'u record ar addysg, yn enwedig addysg uwch yn ystod Llywodraeth gymblaid y DU, am geisio bod yn hunanglodforus. Ond rwy'n meddwl bod hyn yn rhy bell ac nid yw'n cydnabod yn ddigonol pa mor ddifrifol yw'r mater hwn. Byddwn yn cefnogi gwelliant 4 gan Darren Millar.
Credwn fod angen adolygiad ehangach o drefniadau llywodraethu yn y sector addysg uwch yng Nghymru, a bydd fy nghyd-Aelod, Helen Mary Jones, yn trafod hynny ymhellach. Nodaf yr hyn a ddywedodd y Gweinidog yr wythnos diwethaf ynglŷn â'i llythyr cylch gwaith i CCAUC, ond yn bersonol ni allwn ddod o hyd i gyfeiriad penodol at gynnal adolygiad yn y llythyr hwnnw. Ond ar ôl i fy ymchwilwyr ffonio CCAUC, maent wedi dweud eu bod yn cynnal adolygiad cyffredinol o'r trefniadau, felly efallai y gall y Gweinidog, yn ei hymateb i'r ddadl hon, ddweud beth yn benodol y bydd hynny'n ei olygu mewn perthynas â llywodraethu, a sut y bydd yn ymateb i'r adolygiad hwnnw.
Rydym yn galw ar y Llywodraeth i ymdrin â sgandal cyflogau is-gangellorion o'r diwedd. Mae'n hollol hurt fod is-gangellorion yn cael mwy o gyflog na'r Prif Weinidog. Ceir trefniadau ar waith yn yr Alban sy'n helpu i ymdrin â'r materion hyn, ond ni welaf unrhyw reswm pam na all Cymru fynd i'r afael â hyn yn ogystal. Rydym hefyd yn falch o gefnogi galwadau a glywyd ers amser maith gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ac eraill i staff a myfyrwyr gael chwarae rhan lawn yn y strwythurau ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn prifysgolion, ac ni fyddai hyn yn syndod o gwbl fel cyn swyddog sabothol. Nid yw'r drefn fel y mae yn ddigonol bellach. Yn ein barn ni, mae angen strwythur mwy cynhwysol wedi'i gosod yn y gyfraith a dull partneriaeth gyfan o ymdrin ag addysg uwch yn gyffredinol.
Yn y pen draw, credwn fod prifysgolion yn hanfodol i wead bywyd Cymru ac i'n heconomi. Ceir cymunedau, trefi a dinasoedd cyfan sy'n llawer iawn cyfoethocach o ganlyniad i'w presenoldeb. Ond rydym yn gweld cymylau ar y gorwel ac yn ein barn onest ni—mae pawb ohonom yn onest yr wythnos hon, onid ydym—mae'n rhaid i ni gydnabod hyn o ddifrif ac rwy'n gobeithio bod y Gweinidog yn ei gydnabod hefyd.
Rydym wedi codi'r materion hyn mewn nifer o fforymau yn y gorffennol, a dywedwyd wrthym am beidio â phoeni cymaint. Rwyf fi ac eraill yn credu bod angen mwy o weithredu a hynny ar frys. Credwn hefyd, fel y gelwais amdano yn y gorffennol, fod y sector hwn yn ddigon mawr i gyfiawnhau cael Gweinidog ar wahân ar gyfer addysg uwch. Wrth edrych ar y tirlun ôl-16, diwygiadau arfaethedig y Gweinidog i addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, credaf y byddai hyn yn cyfiawnhau gweithgarwch uniongyrchol gan Weinidog ar wahân.
Felly, fe ailadroddaf: sector sy'n wynebu bygythiadau ariannol parhaus a gostyngiad yn y niferoedd; sector a allai fod yn rhy agored i fenthyca mewn rhai meysydd; prifysgolion sy'n cyfyngu ar faint eu campysau a'u presenoldeb mewn rhai ardaloedd o Gymru. Ac mae gennym bobl yn gweithio mewn sector sy'n dweud wrthyf fi ac eraill nad yw tryloywder yn ddigon, nad yw llywodraethu'n ddigon cynhwysol ac nad yw'n darparu'r lefel o oruchwyliaeth, gweledigaeth na chyfeiriad cryf sydd eu hangen yn ddybryd ar y sector. Efallai y byddai'n beth da i'r rheoleiddiwr ganolbwyntio ar y pryderon hyn yn hytrach nag ymgysylltu â mi'n gyson ynglŷn â'r hyn a all, a beth na all y Gweinidog ymateb iddo yn y Siambr hon. Dywed y Gweinidog, a bydd yn dweud eto heddiw mae'n siŵr, fod y prifysgolion yn annibynnol, ac rydym yn deall hynny. Ond credwn y gellir cael mwy o ddisgwyliadau, ysgogiad a gweledigaeth o ran canlyniadau a ffefrir. Mae angen i bawb yng Nghymru, yn enwedig myfyrwyr a staff yn y sector addysg uwch, fod yn gwbl hyderus yn awr ar gyfer y dyfodol. Ar hyn o bryd, mae arnaf ofn nad ydynt.