Part of the debate – Senedd Cymru am 6:04 pm ar 26 Mehefin 2019.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Mae unrhyw gyfle i drafod a hyrwyddo ein sector addysg uwch bob amser yn rhywbeth i'w groesawu. Ac wrth siarad o blaid gwelliant y Llywodraeth, rwy'n cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r sector, gan gynnwys Brexit, y gostyngiad yn nifer y bobl ifanc 18 oed a chystadleuaeth ddomestig a byd-eang. Ond rwyf hefyd yn croesawu llwyddiant y sector ac fel y dywedodd David Rees, mae’n sector sy'n perfformio'n well na gweddill y Deyrnas Unedig o ran bodlonrwydd myfyrwyr, ac o ran arwain yng Nghymru a ledled y DU mewn perthynas â thalu'r cyflog byw go iawn i'w staff, ac o ran y cynnydd a wnaethpwyd, gan weithio gyda CCAUC, ar dryloywder cyflogau uwch a llywodraethu cryfach. Rwyf wedi ymrwymo i lwyddiant lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ein prifysgolion. Mae ein sefydliadau yn asedau cenedlaethol sy'n uchel eu parch ym mhob cwr o’r byd, ac maent yn cyflawni hyn fel sefydliadau annibynnol sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r Llywodraeth.
Nawr, efallai y bydd yn well gan eraill ar draws y Siambr hon weld prifysgolion yn gweithredu fel cangen o'r Llywodraeth. Mae'n well gennym ni eu bod yn cymryd eu lle yn dadlau a thrafod yn y parth cyhoeddus, ac yn herio a chyfrannu at feddwl y Llywodraeth er lles ein cenedl.