Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 2 Gorffennaf 2019.
Wel, y tro diwethaf, roedd y canlyniadau PISA yng Nghymru yn waeth nag yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, a dyna'r pedwerydd tro yn olynol y cyrhaeddwyd y sefyllfa druenus honno. Bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i ragweld yn ffyddiog nad oes fawr ddim wedi newid? Yr wythnos diwethaf, dywedodd Lee Waters, mewn eiliad o onestrwydd i'w groesawu, nad oes gan y Llywodraeth Lafur unrhyw syniad mewn gwirionedd o beth y mae'n ei wneud gyda'r economi. Mae cyflwr y gwasanaeth iechyd yn profi nad oes ganddi unrhyw syniad o beth mae'n ei wneud ym maes iechyd, ac mae cyflwr y gwasanaeth addysg yn golygu nad oes ganddi unrhyw syniad o beth mae'n ei wneud ym maes addysg ychwaith.