Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 2 Gorffennaf 2019.
Prif Weinidog, pa un a ydych chi'n ei hoffi ai peidio, mae'r canlyniadau PISA yn fesur a gydnabyddir yn eang o berfformiad Cymru o ran addysg—fe'u cydnabyddir ledled y byd. Yng Nghymru, rydym ni'n dal yn ansicr ynghylch pa mor ddadlennol fydd y fframwaith newydd ar gyfer mesur perfformiad ysgolion a sut y bydd yn cael ei ddarllen yng nghyd-destun y cymaryddion rhyngwladol. Pa waith ymchwil y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud i weld a yw ein canlyniadau PISA yn effeithio ar benderfyniadau buddsoddwyr tramor i ymrwymo i Gymru, ac a ydym ni'n gwybod eto a fydd disgyblion yng Nghymru yn dal i gael eu gwahodd—ar hap—i sefyll y profion PISA pan fydd y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno?