Part of the debate – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 2 Gorffennaf 2019.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd, os gwelwch yn dda, yng ngoleuni adroddiad yr arolygiaeth ddoe ar yr adran ddamweiniau ac achosion brys yn ysbyty'r Mynydd Bychan? Nid gwleidydd sy'n dweud hyn; mae'n amlwg mai'r Arolygiaeth ei hun sy'n nodi yn eu hadroddiad sut y cafodd cleifion eu symud o welyau i gadeiriau er mwyn i'r bwrdd iechyd allu cydymffurfio â thargedau aros iechyd. Dywedodd y Prif Weinidog ei hun yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog na fydd y Llywodraeth yn ymatal rhag helpu byrddau iechyd i gyflawni'r targedau hyn. Dywedodd fod y targedau hyn o fudd clinigol amlwg a dyna pam eu bod yn bodoli. Rwy'n siŵr nad yw'r rhan fwyaf o'r cleifion a gafodd eu symud o welyau i gadeiriau ac yna aros am 20 awr yn gweld hynny fel budd clinigol, a bod yn onest gyda chi. Rydym wedi dysgu heddiw, gan un o'r un enw â mi, Andrew Davies, sef cadeirydd bwrdd iechyd Abertawe, bod tri neu bedwar o alwadau'r dydd yn mynd i fyrddau iechyd. Yn fy marn i, mae'n annealladwy i feddwl nad oedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r sefyllfa hon yn yr uned asesu ac yn yr adran achosion brys, os oedd y lefel honno o ryngweithio'n digwydd ar amseroedd aros. Dyna pam rwy'n credu ei bod yn dyngedfennol fod y Gweinidog iechyd yn gwneud datganiad—datganiad llafar gobeithio—er mwyn inni gael atebion i rai o'r cwestiynau. Rwy'n cynrychioli rhanbarth sydd ond newydd gael trychineb y gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf, lle yr oedd uwch reolwyr yn honni nad oeddent yn ymwybodol o'r hyn a oedd yn digwydd yn yr adran famolaeth honno. Yma, mae'r arolygiaeth iechyd wedi nodi gweithredoedd bwriadol i geisio cydymffurfio â'r amseroedd aros y byddwn yn eu hawgrymu, ac rwy'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf o glinigwyr yn awgrymu bod hyn yn peryglu canlyniadau cleifion, ac ni ellir goddef hynny. Ni all fod yn ddigon da i ni, ymhen chwech neu ddeuddeng mis o bosibl, ymateb am na chymerwyd camau i ymdrin â hyn a chanfod pwy oedd yn gwneud y penderfyniadau hyn. Yn sicr, nid y staff a oedd dan bwysau yn yr adrannau hynny, gan ein bod yn gwybod fod yr arolygaeth wedi amlygu'r ffaith nad oedd rotâu staff yn cael eu llenwi, er bod gan Lywodraeth Cymru ddeddfwriaeth ar waith sy'n dweud y dylid llenwi rotâu staff i lefel ofynnol benodol. Mae'r gyfraith yn mynnu hynny, ac eto mae'r Arolygiaeth wedi amlygu hynny yn ei hadroddiad, ac felly credaf fod difrifoldeb yr adroddiad hwn yn cyfiawnhau o leiaf ddatganiad llafar gan y Gweinidog mewn Cyfarfod Llawn fel y gallwn ofyn y cwestiynau hynny y mae ein hetholwyr a phobl sy'n gweithio yn yr adrannau hyn, nid yn afresymol, yn eu gofyn i ni.