Part of the debate – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 2 Gorffennaf 2019.
Diolch ichi am godi'r mater hwn. Ac wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn na all unrhyw orsaf barcffordd fod ar draul canol dinas Abertawe, a chredaf fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y datganiad hwnnw'n glir iawn. Mae gennym ddadl yfory sy'n edrych ar ddyfodol Trafnidiaeth i Gymru, felly gallai hynny fod yn gyfle i godi'r pryderon penodol hyn gyda'r Gweinidog trafnidiaeth. Ond byddaf yn gofyn iddo ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am y mater penodol hwn.