2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 2 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:48, 2 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am godi'r mater hwn. Mae'r Gweinidog iechyd, mi wn, i fod i drafod y mater hwn gyda swyddogion yr wythnos hon. Rwy'n deall ei fod yn adroddiad mawr ac mae llawer o dystiolaeth wedi ei gynnwys ynddo, ac mae'n amlwg bod angen ei ystyried yn drylwyr, ond cyn gynted ag y bydd y Gweinidog iechyd wedi derbyn cyngor, a deallaf y bydd hynny'n ystod yr wythnosau nesaf, bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi.