6. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 2 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 4:23, 2 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Dim ond i groesawu'n fawr y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ac ailddatgan yr hyn a ddywedodd y pwyllgor yn ei adroddiad, rydym yn credu mai'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yw'r ffordd briodol o fwrw ymlaen â'r mesurau hyn fel y maent yn berthnasol i Gymru. Ac a gaf fi ddweud, fel Cadeirydd, Llywydd, fy mod i'n croesawu'n fawr y gallu i gynnwys y cwestiynau hynny ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd ar sail wirfoddol, fel y dywedodd y Gweinidog? Mae'n amlwg yn bwysig iawn bod pobl mewn lleiafrifoedd o ran eu cyfeiriadedd rhywiol a'u hunaniaeth o ran rhywedd yn cael gwasanaethau a ddarperir sy'n briodol i'w hanghenion, a bydd yr wybodaeth ychwanegol honno a fydd ar gael i ddarparwyr gwasanaethau yn arwyddocaol iawn ac yn gwbl gydnaws, yn fy marn i, â'r polisi cydraddoldeb a'r safbwynt ar gydraddoldeb a gymerir gan y Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru.