Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 9 Gorffennaf 2019.
Diolch, Prif Weinidog. Mae'n wirioneddol ddefnyddiol y gellir defnyddio'r grant datblygu disgyblion-mynediad i ariannu pethau fel offer, cit chwaraeon, a hefyd cit ar gyfer gweithgareddau y tu allan i ysgolion hefyd, yn enwedig pan gofiwn fod incwm cartrefi £1,500 yn is erbyn hyn nag yr oedden nhw dair blynedd yn ôl oherwydd effaith barhaus agenda cyni cyllidol San Steffan. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynghorau i hybu'r defnydd o'r grant, a sut ydych chi'n gweithio i godi ymwybyddiaeth o'r nifer o ffyrdd y gellir ei ddefnyddio?