Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 9 Gorffennaf 2019.
Wel, mae gen i ofn nad yw'r haeriadau a wnaed gan yr Aelod yn wir, Llywydd. Yn ogystal â bod wedi gostwng diweithdra yn gynt na gweddill y Deyrnas Unedig, mae cyflogaeth yn codi'n gynt na gweddill y Deyrnas Unedig, ac mae cyfraddau anweithgarwch wedi gostwng mwy na gweddill y Deyrnas Unedig, cynhyrchiant Cymru ers 2011 fu'r twf cyflymaf o holl wledydd a rhanbarthau'r DU. Felly, nid wyf i'n derbyn yr haeriadau y mae'r Aelod yn eu gwneud, ond fe ddywedaf hyn wrtho: pe byddai cynlluniau ei blaid ef fyth yn dwyn ffrwyth a phe byddai'r wlad hon yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar 31 Hydref, yna bydd yr holl enillion a wnaed yn ystod y cyfnod datganoli o dan fygythiad o'r newydd a hwnnw'n fygythiad sylweddol iawn.