Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 9 Gorffennaf 2019.
Llywydd, mae cau banciau yn parhau i gael effaith niweidiol ar fynediad at wasanaethau bancio i unigolion, cymunedau a busnesau bach a chanolig eu maint ledled Cymru. Efallai y bydd gan fanciau cymunedol swyddogaeth bwysig o ran rhanbarthu a lleoleiddio llifau ariannol, a pharhau'r ddarpariaeth o wasanaethau bancio mewn cymunedau fel Caerffili.