Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 9 Gorffennaf 2019.
Llywydd, yn ystod ei oes, hyd yn hyn, mae Arbed wedi darparu cynlluniau yng Nghanol De Cymru i fynd i'r afael â thlodi tanwydd sydd wedi bod o fudd i dros 3,000 o gartrefi. Mae naw cynllun yn cael eu datblygu ar gyfer eleni, ym mhob rhan o'r rhanbarth.