2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 9 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:25, 9 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â beth arall y gellir ei wneud i helpu ein cyn-filwyr yn y lluoedd arfog, sy'n dioddef o anhwylder straen wedi trawma, i ddychwelyd i'r gwaith? Yr wythnos diwethaf, roedd yn dristwch mawr imi ddarllen am achos fy etholwr, Mr Anthony Lock o Gasnewydd. Mae Mr Lock yn gyn-filwr gyda'r Cymry Brenhinol a anafwyd mewn dau ffrwydrad yn Affganistan, ac a dioddefodd o PTSD. Cafodd Mr Lock glod am ei arweinyddiaeth ragorol a'i ddewrder ac eto i gyd mae'n parhau'n ddi-waith er gwaethaf cyflwyno cannoedd o geisiadau am swyddi. Mae'n credu ei fod yn destun gwahaniaethu oherwydd ei fod yn dioddef o PTSD.

Ymhellach, rwyf hefyd yn pryderu yr ymddengys fel nad yw staff mewn canolfannau gwaith yn ymwybodol o gynllun pencampwyr y lluoedd arfog o ran helpu cyn-filwyr i gael gwaith. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch beth arall y gellir ei wneud i helpu Anthony Lock a'r holl gyn-filwyr sy'n eu cael eu hunain mewn sefyllfa debyg fel y gallwn ni ad-dalu'r ddyled sydd arnom iddynt am eu gwasanaeth i'n cenedl a'u dewrder mawr? Diolch.