Part of the debate – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 9 Gorffennaf 2019.
Mae gennyf i ddau fater iechyd pwysig yr hoffwn i eu codi gyda chi y prynhawn yma. Y mis diwethaf, lleisiais fy mhryderon nad yw'r Llywodraeth eto wedi agor y clinig rhyw a addawyd ganddi. Roedd disgwyl y byddai hynny'n digwydd ym mis Ebrill eleni, yn dilyn y cytundeb cyllideb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth Lafur, ac roeddwn i'n falch o weld y cyhoeddiad hirddisgwyliedig ddoe y bydd gwasanaeth rhyw Cymru yn dechrau gweld cleifion ym mis Medi. Bydd hwn yn gam mawr i sicrhau bod ein dinasyddion trawsrywiol yn cael cynnig gofal iechyd o safon uchel a allai, o bosibl, achub bywydau yng Nghymru.
Fodd bynnag, codwyd pryderon eisoes gyda mi ynglŷn â hyfywedd y gwasanaeth hwn, gyda'r posibilrwydd y bydd y gwasanaeth yn defnyddio seiciatryddion heb eu hyfforddi fel clinigwyr rhyw i lenwi'r bwlch adnoddau. Gyda dim ond wythnos i fynd tan y toriad, a dim cyfle cyn mis Medi i graffu ar y Gweinidog iechyd o ran y gwasanaeth newydd, mae angen sicrwydd arnom ar frys gan y Gweinidog hwnnw y bydd y clinig yn agor gydag adnoddau digonol a chlinigwyr wedi'u hyfforddi'n briodol a all ddarparu'r gofal iechyd y mae ei angen ar ei gleifion. Felly, a wnaiff y Gweinidog iechyd gyflwyno datganiad ysgrifenedig neu lafar, neu a wnaiff ysgrifennu ataf i yn amlinellu sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod y pryderon hyn yn cael sylw?
Rwyf hefyd am godi mater sensitif sydd wedi cael ei ddwyn i'm sylw dros y penwythnos, gan fenyw yn y Rhondda a gollodd faban 13 wythnos i mewn i'w beichiogrwydd ar ôl damwain car. Byddai dweud bod hyn wedi bod yn brofiad trallodus iawn iddi hi a'i theulu yn dipyn o danddatganiad. Daeth y fenyw hon ataf i gan ei bod wedi gorfod ymladd, yng nghanol galar dwys, am yr hawl i gymryd perchnogaeth o weddillion ei baban fel y gallai drefnu'r angladd. Ar ôl cyfres o gamgymeriadau o ran ei gofal, dywed hi fod llawer o bwysau wedi'i roi arni yn yr ysbyty iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb am weddillion y baban. Dywedodd hefyd na chynigiwyd gwasanaeth cwnsela na chymorth profedigaeth iddi yn ystod ei chyfnod cyntaf yn yr ysbyty. Ni chafodd unrhyw daflenni hyd yn oed pan adawodd ysbyty'r Tywysog Siarl am adref. Mae hi wedi cael cynnig y gwasanaethau hyn wedi hynny, er y bydd yn rhaid iddi deithio i glinig Beresford yng Nghasnewydd i gael y gwasanaethau hynny, ac nid yw hynny'n hawdd.
Hoffwn i i'r Llywodraeth hon amlinellu pa bolisi ac arweiniad a geir ar gyfer ymddiriedolaethau ysbytai er mwyn sicrhau y bydd rhieni, fel y fenyw sydd wedi dod ataf i, yn cael eu trin â thosturi ac urddas llawn ar adegau o drychineb fel hyn.