Part of the debate – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 9 Gorffennaf 2019.
Diolch. Yn sicr, byddaf yn cymryd y cyfrifoldeb yn bersonol i sicrhau eich bod yn cael ateb i'ch cwestiwn ynghylch absenoldeb straen. Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i ymateb i gwestiynau ysgrifenedig mor gyflym ag y gallwn ni, ond yn aml mae lefel y manylder sydd ei angen yn rhai o'r ceisiadau hynny yn eithaf dwys. Ond, os oes gan yr Aelodau broblem fel yr un a ddisgrifiwyd gennych chi am ddiffyg ymateb prydlon, rwyf i bob amser yn hapus i geisio symud pethau yn eu blaen.